Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyllid am ddim ac awgrymiadau arbed ynni ymysg y gefnogaeth sydd ar gael mewn digwyddiad busnes dan arweiniad arbenigwyr

Mae awgrymiadau ar arbed ynni, cael gafael ar gyllid a sut i wneud yn fawr o gyfryngau cymdeithasol ymysg y rheini sydd ar gael i fusnesau Abertawe mewn digwyddiad am ddim fis nesaf.

Sketty Hall

Sketty Hall

Bydd y digwyddiad hwn a drefnir gan Gyngor Abertawe ac a gynhelir yn Neuadd Sgeti ddydd Iau, 10 Tachwedd yn cynnwys 8 sesiwn 50 munud a gynhelir gan arbenigwyr busnes lleol.

Bydd yn para o 1pm tan 5pm, ac mae pynciau eraill yr ymdrinnir â hwy yn y digwyddiad yn cynnwys hanfodion caffael a sut orau i ysgrifennu cyflwyniad 60 eiliad.

Mae'r seminarau hyn yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau'r awr bŵer y mae tîm ymgysylltu â busnesau'r cyngor wedi bod yn eu cynnal dros y 18 mis diwethaf, sydd eisoes wedi bod o fudd i gannoedd o fusnesau ar draws Abertawe.

Bydd yr arbenigwyr a fydd yn arwain y seminarau yn Neuadd Sgeti'n cynnwys Stephen Bell o Business in Focus, Paul Carrol ac Elgan Richards o Busnes Cymru, Lee Morgan o Natwest, Emily Wood o Fanc Datblygu Cymru, Rebecca Wade o Purple Dog, a Tony Dowling o Real Inbound Marketing.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae gan Abertawe gymaint o sgiliau entrepreneuraidd, ond weithiau mae'n anodd i'n busnesau ddod o hyd i'r holl gefnogaeth y mae ei hangen arnynt mewn un lle - boed honno'n gyfeirio at y cyllid sydd efallai ar gael, dangos iddynt sut gallant arbed arian ar eu biliau ynni neu eu cyfeirio i sefydliadau eraill sy'n gallu helpu.

"Dyna pam mae ein tîm ymgysylltu â busnesau wedi bod yn gweithio'n agos gyda phartneriaid yn y ddinas i drefnu digwyddiadau o'r math hwn, y mae eu hangen yn fwy nag erioed yn awr wrth i breswylwyr a busnesau ddod allan o'r pandemig i wynebu heriau'r argyfwng ynni a chostau byw."

Er mwyn ymateb i anghenion busnesau lleol, trefnir y bydd ystafell drafod benodol ar gael ar gyfer rhwydweithio yn y digwyddiad yn Neuadd Sgeti i'r holl fusnesau a bydd siaradwyr arbenigol yn bresennol.

Ariennir y digwyddiad gan Gronfa Adfer Cymunedol y DU a gofynnir i fusnesau sydd â diddordeb mewn dod i'r digwyddiad fynd yma i gofrestru ymlaen llaw.

Close Dewis iaith