Toglo gwelededd dewislen symudol

Miloedd yn gwneud yn fawr o fenter #BysusAmDdimAbertawe

Mae miloedd o breswylwyr y ddinas wedi bod yn gwneud yn fawr o gynnig teithiau bws #BysusAmDdimAbertawe.

Free Bus VoxPop - Kat

Free Bus VoxPop - Kat

Mae'r cynnig teithiau bws yn dechrau heddiw eto (dydd Gwener) am benwythnos hir arall o ddydd Gwener i ddydd Llun ac mae wedi bod yn boblogaidd iawn ymhlith bobl leol ac ymwelwyr.

Mae teuluoedd yn defnyddio #BysusAmDdimAbertawe i wneud rhywfaint o siopa, bwyta mas neu fwynhau amser gyda ffrindiau gan ei fod yn haws na defnyddio car ac yn arbed amser, tanwydd a ffwdan.

Nawr, mae gennych gyfle i gynnig eich barn am lwyddiant y cynnig yn ein harolwg ar-lein y gellir dod o hyd iddo yma: https://www.abertawe.gov.uk/dweudeichdweud.

Free Bus VoxPop - Leighton

Daeth Leighton a'i feibion Ezra, Charlie a Joshua i'r ddinas i gael bwyd yn Taco Bell ac yna ymweld â'r LC. Meddai, "Mae cael teithio am ddim yn opsiwn gwych; byddem fel arfer yn dod yn y car ond mae teithio'r ffordd 'ma'n golygu nad oes angen i ni feddwl am barcio."

Ychwanegodd Kat o'r Clâs, a oedd yn Abertawe i siopa, "Mae teithio am ddim yn gwneud gwahaniaeth enfawr gan ei fod yn arbed ar brisiau tocynnau ac - os ydych yn dod mewn car - ar allyriadau a thaliadau parcio."

Aeth Pam a Leanne o Gasllwchwr mas gyda'r teulu i'r Mwmbwls. Meddent, "Mae'r bws am ddim yn gwneud gwahaniaeth mawr i ddiwrnod mas fel hwn am ei fod yn lleihau costau; rydym yn credu y dylai pobl eraill fanteisio ar y cynnig."

Free Bus VoxPop - Pam

Dywedodd Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd mai un o fanteision mwyaf #BysusAmDdimAbertawe oedd annog pobl i ddefnyddio'r bws yn amlach.

Meddai, "Roeddem yno i bobl Abertawe yn ystod y pandemig ac wrth i ni ddod allan ohono, ac wrth i bobl fynd o gwmpas y lle'n fwy, rydym am annog pobl i roi cynnig ar gludiant cyhoeddus, rhywbeth efallai na fyddent wedi'i wneud yn y gorffennol. Y gobaith yw y bydd yn eu hannog i'w ddefnyddio yn y dyfodol hefyd.

"Mae #BysusAmDdimAbertawe yn dda ar gyfer yr amgylchedd oherwydd gall pobl adael y car gartref os dymunant ac mae'n dda i fusnesau am ei fod yn annog pobl i ymweld â chanol dinas Abertawe neu fannau eraill fel y Mwmbwls a Threforys.

"Yn ystod gwyliau'r haf mae'n syniad da ar gyfer yr adegau pan fydd rhieni'n chwilio am ffyrdd i ddifyrru'r plant. Mae ymweliad â thraeth Abertawe neu Lido Blackpill am hufen iâ yn rhatach."

I gael rhagor o wybodaeth am fenter #BysusAmDdimAbertawe, gan gynnwys gwybodaeth er mwyn cynllunio'ch taith, ewch i: www.abertawe.gov.uk/bysusamddim

Close Dewis iaith