Toglo gwelededd dewislen symudol

Prosiect Angori Cefnogi Busnes

Helpu busnesau i ddechrau a llwyddo trwy ddarparu arian grant. Yn ogystal â hyn, bydd yr angor hwn hefyd yn darparu gweithgareddau cefnogi busnes ac yn cefnogi busnesau i gyflawni carbon sero net, yn ogystal â chynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol y ddinas trwy gynnal digwyddiadau.

Mae'r grantiau busnes yn cynnwys y canlynol:

  • Grant Cyn Dechrau
  • Grant Datblygu Gwefannau
  • Grant Lleihau Carbon
  • Grant Twf Busnesau
  • Grant Datblygiad Cyflenwyr
  • Cronfa Datblygu Eiddo

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y grantiau hyn a gwneud cais yma Cymorth ariannol

Gweithgareddau cymorth i fusnesau

Rhaglen o weithdai a digwyddiadau Busnes Abertawe i gefnogi busnesau newydd a rhai sydd eisoes wedi'u sefydlu trwy drafod pynciau fel cyfraith cyflogaeth, mynediad at gyllid, seiberddiogelwch, cyfrifeg a marchnata ar y cyfryngau cymdeithasol. Gallai hyn gynnwys cyrsiau cyflwyniad i hunangyflogaeth i unigolion sy'n ystyried dechrau eu busnes eu hunain (sy'n gysylltiedig â phrosiectau cyflogadwyedd).

Byddai'r Rhaglen Datblygu Cyflenwyr yn mynd i'r afael â'r angen hwn ac yn darparu gwasanaethau GwerthwchiGymru, e-dendro Cymru a sut i gyflenwi gweithdai Cyngor Abertawe i roi'r sgiliau i fusnesau bach i allu tendro ar gyfer y cyngor a chontractau eraill trwy GwerthwchiGymru.

Cefnogi busnesau bwyd lleol a chyflwyno rhaglen waith 'Hyrwyddo Bwyd Lleol' yn y Cynllun Adferiad Economaidd mewn partneriaeth â Phartneriaeth Bwyd Abertawe. Bwriad y gwaith hwn yw lleihau'r cadwyni cyflenwi bwyd yn Abertawe, cynyddu ymwybyddiaeth o fwydydd lleol a chynyddu proffil Abertawe fel cyrchfan bwyd.

Cefnogi busnesau i gyrraedd y targed sero net

Ynghyd â'r Grant Lleihau Carbon i Fusnesu, byddai Angor Busnes Abertawe'n cyfrannu tuag at gyrsiau hyfforddi Tuag at Garbon Sero a fyddai'n cynnwys archwiliadau ynni/lleihau carbon ar gyfer busnesau bach a chanolig yn Abertawe.

Denu mwy o ymwelwyr trwy ddigwyddiadau

Cyllid ar gyfer swyddog digwyddiadau canol y ddinas i fod yn rhan o Dîm Rheoli Canol y Ddinas a chyllideb digwyddiadau i gyflwyno digwyddiadau sy'n gysylltiedig â Marchnad Abertawe i gynyddu niferoedd ymwelwyr er budd busnesau presennol.