Toglo gwelededd dewislen symudol

Globau Abertawe'n cael eu cyflwyno yr wythnos hon

O'r wythnos hon gall pobl Abertawe fynd ar daith ddarganfod ar hyd llwybr celf gyhoeddus newydd sy'n ysgogi'r meddwl.

A World Reimagined globe

A World Reimagined globe

 

Dros yr ychydig ddiwrnodau nesaf bydd deg cerflun glôb a ddyluniwyd gan artistiaid yn cael eu gosod ar strydoedd ac mewn mannau eraill ar draws canol y ddinas. Mae disgyblion ysgolion lleol wedi creu rhai eraill a fydd hefyd yn cael eu harddangos.

 

Mae'r globau - sydd bron yn 6 troedfedd o uchder - yn archwilio ein hanes cyffredin, a sut cafodd ei lunio gan y berthynas gymhleth sydd gennym ag Affrica a'r Caribî. Maent yn ceisio trawsnewid y ffordd rydym yn deall y Fasnach Drawsatlantig mewn caethweision o Affrica, ei heffaith ar bob un ohonom a sut y gallwn wneud cyfiawnder hiliol yn realiti.

 

Or wythnos hon tan ddiwedd mis Hydref, bydd y globau gwydr ffibr yn cael eu harddangos fel rhan o brosiect a gynhelir ar draws y DU sef The World Reimagined, a gefnogir gan y partner cyflwyno swyddogol, SKY a Chyngor Abertawe.

 

Disgwylir i ddigwyddiad lansio gael ei gynnal gan gymuned leol yn Abertawe y dydd Mercher hwn yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau rhwng 12pm a 4pm. Disgwylir i ddigwyddiadau eraill ddilyn dros y misoedd sy'n dod.

 

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Elliott King, "Mae Abertawe'n ddinas amrywiol, gyda thros 100 o ieithoedd yn cael eu siarad yma. Rydym yn falch o fod yn gymuned agored a chroesawgar gyda statws Dinas Noddfa.

 

"Credwn y bydd The World Reimagined yn cryfhau cysylltiadau ein cymunedau â'i gilydd, gan annog pobl i feddwl mewn ffyrdd newydd a chadarnhaol am ein gorffennol, ein presennol a'n dyfodol."

 

Crëwyd globau Abertawe gan artistiaid o bob rhan o'r DU. Bydd y globau wedi'u lleoli yng Nghastell Abertawe, canolfan siopa'r Cwadrant ac ar ben Princess Way.

 

Gallwch ddod o hyd i globau ysgolion yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Theatr y Grand ac Oriel Gelf Glynn Vivian.

 

Drwy lwyfan digidol, gall pobl gynllunio sut byddant yn mwynhau'r llwybr o'r dydd Sadwrn yma, pan fydd manylion llawn y llwybr yn cael eu cyhoeddi.

 

Rhagor: www.theworldreimagined.org/

 

Llun: Yr artist Joshua Donkor ar y dde, gydag Elliot King, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe a Phennaeth y Gwasanaethau Diwylliannol, Tracey McNulty, a glôb The World Reimagined Joshua. Mae'n cael ei osod yng nghanolfan siopa'r Cwadrant yng nghanol y ddinas i bawb ei fwynhau.