Grant Chwarae mewn Ysgolion 2025 / 2026
Fel rhan o'r ddyletswydd ar yr holl awdurdodau lleol i asesu digonolrwydd cyfleoedd chwarae yn eu hardaloedd, nodwyd bod mynediad at gyfleoedd chwarae o safon dan arweiniad plant mewn ysgolion yn allweddol i ddatblygiad plentyn.
Felly, mae Cyngor Abertawe unwaith eto wedi nodi cyfleoedd i ysgolion lleol gael gafael ar gyllid, a helpu i ddarparu cyfleoedd chwarae yn ystod y diwrnod ysgol.
Mae hyd at £1,000 ar gael fesul ysgol ac mae angen i geisiadau ganolbwyntio ar brynu cyfarpar neu adnoddau eraill sy'n cefnogi cyfleoedd chwarae i blant yn yr ysgol.
Ni ellir defnyddio'r grant i gefnogi hyfforddiant na gweithgareddau sy'n seiliedig ar y cwricwlwm, gan gynnwys chwaraeon.
Bydd angen gwario'r cyllid erbyn 31 Mawrth 2026.
Gan fod cyllid cyfyngedig gael, sylwer na fydd pob cais yn llwyddiannus.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw canol dydd 1 Rhagfyr 2025.
Os hoffech drafod eich cais cyn ei gyflwyno, mae croeso i chi e-bostio chwarae@abertawe.gov.uk
Mae chwarae'n fwy na hwyl; mae'n hanfodol.
Drwy chwarae, mae plant yn dysgu sut i feithrin cysylltiadau ag eraill, magu amrywiaeth eang o sgiliau arwain, datblygu gwydnwch, ymdrin â pherthnasoedd a heriau cymdeithasol, a goresgyn eu heriau. Mae'n helpu plant i ffynnu mewn byd sy'n newid yn gyflym.
Nod y grant Chwarae mewn Ysgolion yw cyfoethogi cyfleoedd chwarae ac amserau chwarae.
Er enghraifft, gellir ei ddefnyddio fel a ganlyn:
- Podiau storio ar gyfer cyfarpar amser chwarae.
- Cyfarpar amser chwarae i wella profiadau chwarae ac ymestyn y dychymyg.
- Marciau chwareus mewn ardaloedd chwarae.
- Rhannau rhydd.
- Gwaith ar sylfeini i gefnogi chwarae dan arweiniad plant.
- Byrddau cyfathrebu.
Ni ddylai'r grant gefnogi gweithgareddau na hyfforddiant sy'n seiliedig ar y cwricwlwm.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am chwarae mewn ysgolion gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol: https://chwarae.cymru/chwarae/chwarae-mewn-ysgolion/
Sut i wneud cais
Llenwch y ffurflen gais a chyflwynwch yr wybodaeth angenrheidiol sy'n ofynnol. Gall peidio â chyflwyno'r wybodaeth sy'n ofynnol arwain at oedi wrth asesu'ch cais neu gall y cais fod yn anghymwys i'w ystyried.