Toglo gwelededd dewislen symudol

Abertawe yn un o bum dinas werdd orau'r DU i fuddsoddi ynddynt

Mae Abertawe wedi cael ei henwi fel un o bum dinas werdd orau'r DU i fuddsoddi ynddynt.

Swansea pop-up park

Swansea pop-up park

Yn ôl ymchwil annibynnol dan arweiniad arbenigwyr, sgoriodd Abertawe'n rhagorol mewn meysydd gan gynnwys nifer yr adeiladau swyddfeydd sy'n llesol i'r amgylchedd

Ystyriwyd ffactorau fel allyriadau CO2 a llygryddion aer min y ffordd hefyd gan y grŵp bancio rhyngwladol BNP Paribas fel rhan o astudiaeth eiddo tirol o'r enw Next X a oedd yn canolbwyntio ar ddata amgylcheddol.

Abertawe yw'r unig ddinas yng Nghymru i'w chynnwys yn neg sgôr amgylcheddol uchaf yr astudiaeth.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Rydym yn wynebu argyfwng hinsawdd felly mae'r cyngor a'i bartneriaid yn gwneud llawer iawn o waith er mwyn i Abertawe ddod yn ddinas sero-net erbyn 2050.

"Mae angen i ni hefyd greu Abertawe wyrddach i ddenu mwy o fuddsoddiad gan y sector preifat a chyfleoedd cyflogaeth sy'n cynnwys datblygiadau swyddfeydd di-garbon, cyflwyno llawer mwy o wyrddni ar draws y ddinas a gosod llawer mwy o bwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydan.

"Bydd hyn yn parhau i dorri'n hôl troed carbon a gwneud y ddinas yn fwy bioamrywiol, a bydd hefyd yn codi proffil Abertawe fel lle i fuddsoddi a chreu swyddi i bobl leol. Dyna pam rydym yn falch iawn o gael ein henwi fel un o bum dinas werdd orau'r DU i fuddsoddi ynddynt."

Mae enghreifftiau o waith diweddar dan arweiniad y cyngor yn cynnwys cyflwyno llawer mwy o wyrddni ar Ffordd y Brenin a Wind Street fel rhan o gynlluniau gwella gwerth miliynau o bunnoedd, ynghyd â waliau gwyrdd a thoeon gwyrdd ar sawl adeilad, a pharc dros dro newydd ar hen safle Canolfan Siopa Dewi Sant.

Mae Gerddi Sgwâr y Castell adnewyddedig gyda llawer mwy o wyrddni hefyd yn yr arfaeth, sy'n dilyn cynlluniau eraill gan gynnwys y parc arfordirol 1.1 erw ar bwys Arena Abertawe.

Bydd y datblygiad swyddfeydd newydd a fydd yn darparu lle i 600 o swyddi ar hen safle clwb nos Oceana ar Ffordd y Brenin yn adeilad di-garbon o ran ei weithrediad, ac mae'r gwaith adeiladu yno wedi hen ddechrau. Bydd hefyd yn cynnwys coed ar bob lefel a gardd do.

Mae'r dinasoedd eraill sydd ymysg y pum dinas fwyaf gwyrdd yn y DU i fuddsoddi ynddynt yn cynnwys Caergrawnt, Glasgow, Caeredin a Milton Keynes.

 

Close Dewis iaith