Toglo gwelededd dewislen symudol

Gyda'n Gilydd dros y Nadolig yn Neuadd Brangwyn

12.00pm - 3.00pm ddydd Mawrth 5 Rhagfyr. Yn lledaenu ychydig o hwyl yr ŵyl a chefnogaeth i bobl sy'n agored i niwed, sy'n teimlo'n unig neu sydd efallai'n ddigartref.

Together at Christmas - dinner.

Mae'r diwrnod yn cynnwys:

  • cinio Nadolig dau gwrs am ddim
  • banc bwyd dros dro
  • adloniant byw
  • Cludiant am ddim (11.15am o'r mannau canlynol a thaith adref am 3.15pm o Neuadd Brangwyn) 
    • Oriel Gelf Glynn Vivian
    • Pwynt Mynediad Goleudy ar y Strand
    • Gorsaf Fysus y Cwadrant
  • brechiadau ffliw a COVID am ddim
  • torri gwallt am ddim
  • cotiau a dillad gaeaf am ddim
  • help a chyngor am ddim gan Gyngor Abertawe ar dai, cyflogaeth a hawliau lles

 
 

Cyflwynir y digwyddiad hwn gan JR Events and Catering, gyda chefnogaeth gan Gyngor Abertawe.

Rhagor o wybodaeth

I wirfoddoli, i gael rhagor o wybodaeth, neu i ddarparu gwasanaeth, adloniant neu gyfraniad, cysylltwch â Shannon Williams:

Close Dewis iaith