Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyllid ar gyfer gweithgareddau, bwyd a bysus am ddim yn dychwelyd

Bydd cannoedd o weithgareddau a digwyddiadau rhad neu am ddim i deuluoedd a phobl hŷn ledled Abertawe'r haf hwn wrth i gymorth gael ei gyflwyno i helpu i ddarparu prydau bwyd i blant oedran ysgol y mae eu hangen arnynt yn ystod y gwyliau.

Summer support 2025

Summer support 2025

Bydd y bysus am ddim hefyd yn dychwelyd ar ddiwrnodau rheolaidd dros wyliau'r ysgol fel rhan o becyn gwerth mwy na £500,000 i helpu preswylwyr i wneud yn fawr o'r gwyliau dan ymgyrch #YmaIChiYrHafHwn y cyngor.

Gall grwpiau, sefydliadau a chlybiau wneud cais i Gyngor Abertawe am gyllid i gynnal gweithgareddau a digwyddiadau, ac mae'r rhai sy'n gweithio gyda phobl ifanc yn cael eu hannog i wneud cais am grantiau er mwyn iddynt allu sicrhau bod bwyd ar gael.

Ewch i www.abertawe.gov.uk/COASTBwydGwyliau, y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Sul 15 Mehefin.

Meddai Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, "Unwaith eto, rydym yn gwneud buddsoddiad sylweddol mewn cefnogi preswylwyr i wneud yn fawr o wyliau'r haf.

"Gwyddom fod gwyliau'r ysgol yn gallu bod yn gyfnod drud o'r flwyddyn i deuluoedd sydd dan bwysau ariannol, felly byddwn yn gweithio gyda rhai grwpiau a sefydliadau gwych i sicrhau bod gweithgareddau rhad neu am ddim ar gael, yn ogystal â chyllid i ddarparu prydau bwyd i ddisgyblion y mae eu hangen arnynt yn ystod y gwyliau.

"Ni yw'r cyngor cyntaf yng Nghymru i gynnig bysus am ddim yn ystod gwyliau'r haf, y Nadolig a'r Pasg, ac ers dechrau'r ymgyrch rydym wedi darparu mwy na miliwn o deithiau, sy'n arbed tua £20 i deulu o bedwar i fwynhau diwrnod mas. Rwy'n falch iawn felly ein bod yn cynnig y cynllun hwn unwaith eto."

Mae Cyngor Abertawe'n ariannu'r Grant Bwyd yn ystod y Gwyliau a'r ymgyrch bysus am ddim, ac mae'r cyngor, Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru'n cyfrannu tuag at gyllid gweithgareddau COAST.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 28 Mai 2025