Toglo gwelededd dewislen symudol

Aelodaeth o'r llyfrgell yn gallu arbed arian i breswylwyr

Mae preswylwyr Abertawe sy'n awyddus i arbed arian yn cael eu hatgoffa o fuddion aelodaeth llyfrgell am ddim wrth i'r argyfwng costau byw ddechrau effeithio arnynt.

Library

Library

Mae dau ar bymtheg o lyfrgelloedd ar gael mewn cymunedau ar draws y ddinas, gydag aelodaeth yn rhoi mynediad at wasanaethau gan gynnwys llyfrau a digwyddiadau am ddim i bobl o bob oed.

Mae cyfrifiaduron, y rhyngrwyd a Wi-Fi ar gael i'w defnyddio am ddim yn Llyfrgelloedd Abertawe, a gynhelir gan Gyngor Abertawe, gan alluogi aelodau i gael mynediad at amrywiaeth o wasanaethau ar-lein y cyngor.

Mae'r rhain yn cynnwys gwefan help costau byw siop dan yr unto bwrpasol yn https://www.abertawe.gov.uk/helpcostaubyw sy'n rhoi gwybodaeth am gymorth ariannol y gall fod hawl gan bobl iddo, yn ogystal â gwasanaethau cyfeirio at sefydliadau sy'n gallu helpu gyda rheoli dyled a chefnogaeth iechyd meddwl.

Meddai'r Cyng. Elliott King, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gydraddoldeb a Diwylliant, "Rydym yn gwybod y bydd miloedd o deuluoedd a phreswylwyr yn Abertawe'n teimlo effaith ariannol yr argyfwng costau byw felly rydym yn gwneud popeth y gallwn fel cyngor i'w cefnogi.

"Gyda chynifer o bobl yn chwilio am ffyrdd o arbed arian, byddai nawr yn amser da i'r rheini nad ydynt yn aelodau o'r gwasanaeth llyfrgelloedd ymuno am ddim.

"Mae aelodaeth yn rhoi mynediad at gynifer o bethau am ddim - o ddigwyddiadau fel grwpiau darllen a gweithgareddau i blant i fynediad am ddim at lyfrau, llyfrau llafar, cylchgronau a phapurau newydd electronig.

"Mae gennym rwydwaith o lyfrgelloedd mewn cymunedau ar draws y ddinas, felly byddwn yn annog preswylwyr nad ydynt yn manteisio i'r eithaf ar y gwasanaeth i ddod o hyd i ragor o wybodaeth."

Mae Llyfrgelloedd Abertawe hefyd yn cynnig gwasanaeth dosbarthu i'r cartref i breswylwyr nad allant ddod i'r llyfrgell leol oherwydd rhesymau iechyd neu symudedd.

Ewch i abertawe.gov.uk/llyfrgelloedd i gael rhagor o wybodaeth neu ffoniwch 01792 637503.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Ebrill 2023