Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Gwaith i ddechrau ar seiliau 'adeilad byw' Abertawe

Gyda disgwyl i waith ddechrau ar y seiliau yn yr ychydig wythnosau nesaf, mae arweinwyr y ddinas wedi ymweld â'r safle yn Abertawe lle bydd prosiect 'adeilad byw pwysig' newydd yn datblygu cyn bo hir.

Living building visit

Living building visit

Rhoddwyd manylion ac amserlenni ar gyfer y datblygiad ar hen safle Woolworths ar Stryd Rhydychen i'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, a Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru.

Cwmni Hacer Developments o Abertawe sy'n gyfrifol am y cynllun, sy'n un o'r cyntaf o'i fath yn y DU, a bwriedir iddo gael ei gwblhau erbyn diwedd 2023.

​Bydd yr 'adeilad byw' sy'n cynnwys hen safle Woolworths ac adeiledd newydd 13 llawr gyfagos, yn cynnwys waliau gwyrdd a thoeon gwyrdd, cyfleuster addysgol, unedau manwerthu, swyddfeydd, iard dirluniedig, paneli solar ar y to, storfa fatris a gerddi. Bydd Pobl Group yn rheoli 50 o fflatiau fforddiadwy sy'n rhan o'r cynllun.

​Mae nodweddion eraill y cynllun yn cynnwys tŷ gwydr trefol arddull fferm wedi'i osod dros bedwar llawr. Caiff planhigion a llysiau eu tyfu mewn dŵr a'u bwydo gan wastraff wedi'i bwmpio o danciau pysgod ar waelod yr adeilad. Bydd rhodfa werdd drwy'r adeilad, a fydd yn cynnwys seddi, yn cysylltu Stryd Rhydychen â lle cyhoeddus newydd sy'n arwain i gynllun 71/72 Ffordd y Brenin sy'n cael ei ddatblygu gan Gyngor Abertawe.

​Mae'r gwaith i dynnu rhannau mewnol a gwaith dymchwel bellach wedi'u cwblhau ar safle'r 'adeilad byw', gan olygu y gall y prif waith adeiladu gychwyn.

​Roedd yr ymweliad hefyd yn cynnwys taith o'r adeilad â 33 o fflatiau yn ardal Bae Copr y ddinas a ddatblygwyd gan Gyngor Abertawe, y disgwylir iddo gael ei gwblhau yn yr haf.

​Bydd y fflatiau fforddiadwy hyn sy'n agos at y bont newydd dros Oystermouth Road ac y bydd Pobl Group yn eu cynnal, yn darparu ar gyfer pobl leol sy'n gweithio yng nghanol y ddinas, gyda ffocws penodol ar weithwyr allweddol.

Meddai'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, "Yr hyn rydym wedi'i weld drwy'r gwaith hwn yw enghraifft ragorol o'r cartrefi fforddiadwy y mae angen i ni eu hadeiladu yng Nghymru.

Bydd y cartrefi hyn yng nghanol dinas Abertawe yn gwneud gwahaniaeth enfawr i ansawdd byw cynifer o bobl.

Mae angen i ni weld rhagor o brosiectau fel hyn yn cael eu cyflwyno ledled y wlad wrth i ni ymdrechu i ddod yn Gymru gryfach, gwyrddach a thecach."

​Meddai'r Cyng. Stewart, "Mae'r datblygiad 'adeilad byw' cyffrous dan arweiniad Hacer Developments, wedi'i ysgogi gan ein gwaith i drawsnewid golwg a naws Ffordd y Brenin.

​"Bydd yn creu swyddi i bobl leol wrth helpu Abertawe yn ei hymgyrch i ddod yn ddinas sero-net, gan ategu'r datblygiad swyddfa gerllaw ar hen safle clwb nos Oceana a fydd yn un di-garbon o ran ei weithrediad.

​"Bydd elfen breswyl y cynllun hefyd yn diwallu anghenion llety'r ddinas drwy greu cyfleoedd byw mwy fforddiadwy yng nghanol y ddinas. Mae hyn hefyd yn wir ar gyfer yr adeilad fflatiau yn ardal Bae Copr, a fydd yn elwa o'r cysylltiadau rhagorol a'r parc arfordirol newydd ger Arena Abertawe."

​Meddai Carwyn Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr Hacer Developments, "Rydym wrth ein boddau y bydd y prif waith adeiladu ar gyfer y prosiect 'adeilad byw' hynod arloesol yn dechrau'n fuan, ond ni fyddai hyn wedi bod yn bosib heb gefnogaeth y partneriaid niferus sy'n rhan ohono, gan gynnwys Cyngor Abertawe, Pobl a Banc Datblygu Cymru - yn ogystal a'n tîm dylunio a safle gwych."

​Meddai Claire Tristham, Cyfarwyddwr Datblygiadau Pobl Group, "Mae gan Pobl enw da cynyddol am gyflwyno datrysiadau tai blaengar sy'n gwthio'r ffiniau. Rydym yn llawn cyffro o fod yn gweithio gyda Hacer ar y prosiect arloesol hwn a fydd yn darparu tai fforddiadwy o safon i Abertawe ac yn cefnogi cynlluniau adfywio ehangach y cyngor ar gyfer canol y ddinas. Mae cefnogaeth gan y cyngor a Llywodraeth Cymru wedi bod yn hanfodol bwysig i'r datblygiad hwn, felly roeddem yn falch o allu croesawu'r Gweinidog i'r safle heddiw i lansio'n swyddogol ddechrau'r gwaith ar y prosiect gwirioneddol unigryw hwn."

​Ariennir yr 'adeilad byw' gan gymysgedd o gyllid y sector preifat a chyllid gan Raglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru, Pobl a Banc Datblygu Cymru.

Mae'r datblygiad swyddfeydd ar gyfer 600 o weithwyr ar hen safle clwb nos Oceana yn cael ei ariannu gan Gyngor Abertawe a Bargen Ddinesig Bae Abertawe, a disgwylir iddo gael ei gwblhau yn haf 2023. Fe'i cefnogir hefyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. 

​Datblygwyd ardal cam un Bae Copr gan Gyngor Abertawe, gyda chefnogaeth y rheolwyr datblygu, RivingtonHark. Buckingham Group Contracting Ltd sy'n arwain y gwaith adeiladu.

Close Dewis iaith