Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysbyty Abertawe a'i nyrsys

Trefn a glanweithdra mewn byd o fenywod wedi'i ddatgelu trwy gyfres ddiddorol o ffotograffau

Homegower House yw Ysbyty Cyffredinol a Llygaid Abertawe erbyn hyn, ar gyffordd St Helen's Road a Brynymor Road yn Abertawe. Yn ôl yn y 1920au roedd yn ysbyty ffyniannus gyda staff sylweddol o dros 150 o nyrsys a chynorthwywyr. Mae'r rhan fwyaf o'r cofnodion sydd gennym yn ymwneud â rhedeg yr ysbyty'n gyffredinol ac ychydig iawn ohonynt sy'n rhoi llawer o argraff o sut le ydoedd i'r staff a'r cleifion.

Yn y 1920au daeth ffotograffydd i dynnu lluniau y tu mewn i'r ysbyty. Mae'r rhain yn y Gwasanaeth Archifau heddiw: cyfres o sleidiau sy'n rhoi cipolwg unigryw ar fywydau'r menywod a fu'n gweithio yn yr ysbyty, ac rydym wedi eu rhoi at ei gilydd i greu'r ffilm hon.

Mae'r sleidiau'n dangos byd o drefn a glanweithdra, gyda gwisgoedd glân a chynfasau wedi'u presio'n dda, i gyd o dan lygad barcud y fetron. Cymerwch gip: mae olwynion y gwelyau i gyd wedi'u troi i mewn yn ofalus i atal unrhyw un rhag baglu. Mae wardiau wedi'u haddurno â blodau a phlanhigion tŷ, tra bo'r lloriau caboledig yn disgleirio. Y tu ôl i'r llenni, mae timau o ferched yn smwddio, yn gwnïo ac yn coginio, wrth i'r peiriannau stêm mawr ferwi a golchi'r tywelion a'r cynfasau.

Back to Women's History page

Close Dewis iaith