Toglo gwelededd dewislen symudol

Hanes Menywod

8 Hanes Menywod - Womens History

Bella and Elsie Miller in York Court

Dethlir Mis Hanes Menywod bob mis Mawrth bob blwyddyn.  Mae Mis Hanes Menywod yn cynyddu ymwybyddiaeth ac yn grymuso pobl drwy ddarganfod, dogfennu a dathlu bywydau a chyflawniadau menywod.

Dewch i ddarganfod mwy am fywydau eithriadol a hynod ddiddorol rhai o'r menywod lleol o orffennol Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Dros y canrifoedd, mae'r menywod hyn wedi llunio sut rydym yn meddwl neu'r ffordd rydym yn gwneud pethau ac wedi cyfrannu at wneud ein hardal yr hyn yr ydyw heddiw.

Mae'r straeon yn canolbwyntio'n bennaf ar fenywod nad ydynt eisoes wedi cael eu cydnabod neu nad ysgrifennwyd amdanynt ac yn arddangos dogfennau o fewn ein casgliad.

Archwiliwch ein gwedudalennau Hanes Menywod a gadewch i Hanes Menywod eich ysbrydoli.


 

Ysbyty Abertawe a'i nyrsys

Trefn a glanweithdra mewn byd o fenywod wedi'i ddatgelu trwy gyfres ddiddorol o ffotograffau

Rachel Ellen Jones, uwch-fferyllydd yn Ysbyty Abertawe

Hi oedd y fenyw gyntaf o Gymru i gymhwyso fel fferyllydd a drygist.

Mary Dillwyn ac Emma Dillwyn Llewelyn, arloeswyr ffotograffiaeth

Mae pawb yn sôn am Fox Talbot a John Dillwyn Llewelyn, ond oeddech chi'n gwybod am y ffotograffwyr benywaidd cyntaf yng Nghymru?

Elsie J Evans, derbynnydd y Groes Goch Frenhinol

Mae'r rhan fwyaf o restrau gwroniaid y Rhyfel Byd Cyntaf yn enwi dynion yn unig. Weithiau caiff menywod eu henwi hefyd, a dyma stori un ohonynt

Tair gweithiwr benywaidd yn cael eu lladd: stori Ada Fish, Mary Fitzmaurice, Jane Jenkins ac Edith Copham

Ganed Ada Fish yn Abertawe ar 18 Chwefror 1900. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gweithiodd Ada yn y ffatri ffrwydron genedlaethol ym Mhen-bre. Ar 18 Tachwedd 1918, cafodd Ada ddihangfa lwcus pan gafwyd ffrwydrad yn y ffatri. Nid oedd tair menyw arall o Abertawe mor ffodus. Dyma eu stori.

Jane Phillips o Abertawe, bydwraig, 1859

Wrth bori drwy rhai o'r cofnodion cynharach sydd i'w cael yn yr Archifau, des i ar draws enwau tair bydwraig

Mary Eaton o Abertawe, 1767

Ychydig iawn a wyddom am Mary Eaton, ond heb y ddogfen hon, ni fyddem yn gwybod ei bod hyd yn oed yn bodoli.

Mary Courteen o Gastell-nedd, 1726

Daeth Mary i Gastell-nedd rhywbryd tua 1726. Roedd yn fam i Pleydell Courteen, asiant i deulu Mackworth y Gnoll ac mae'n debygol ei bod hi wedi ymgartrefu yng Nghastell-nedd oherwydd ei mab.

Miss Elizabeth Anne Clement o Bont-rhyd-y-fen, 1911-1912

Ganwyd Elizabeth Ann Clement ar 1 Ionawr 1892 yn Nhai-bach. Symudodd ei theulu i dafarn y Miners Arms, Pont-rhyd-y-fen ym 1899, pan gododd ei thad y drwydded. Erbyn 1911, roedd hi'n farforwyn yn y dafarn. Siaradai Gymraeg a Saesneg.

Gwisg Genedlaethol Cymru: Menywod yn y Farchnad yn ystod yr 1880au

Wrth roi trefn ar hen gasgliad o sleidiau gwydr fe wnes i ddod o hyd i set o bedwar sleid yn dangos menywod mewn gwisg draddodiadol Gymreig. Mae'r sleidiau gwydr yma yn rhan o Gasgliad WC Rogers (D/D WCR) yng ngofal Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg. Mae'r sleidiau'n mesur 12×16.4cm, ac mae pob un yn cynnwys rhwng 14 a 15 delwedd.

Ordinhadau Castell-nedd 1541/2

Mae gan Gymdeithas Hynafiaethwyr Castell-nedd restr o ordinhadau wedi'u dyddio 25 Ionawr 1541/2 sy'n set o reolau llym ar gyfer Bwrdeistref Castell-nedd

Chwilwyr Colera, 1832

Jane Phillips, ynghyd â dwy fenyw arall, Elizabeth Jones o Whitewalls ac Anne Thomas o Wassail Street, yn "chwilwyr" ar gyfer tref Abertawe

Elsie Elvira Mock

Rhwng 1938 a 1952, croesawodd Mrs Mock o 21 Burrows Road westeion i'w chartref fel landlord theatraidd

Mary Emma Eldridge o Lansawel

Ganwyd Mary Emma Eldridge ar 31 Gorffennaf 1880 i'w rhieni James a Mary Ann.
  • Blaenorol tudalen
  • 1
  • 2
  • o 2
  • Nesaf tudalen
Close Dewis iaith