Toglo gwelededd dewislen symudol

Ordinhadau Castell-nedd 1541/2

25 Ionawr 1541/2
NAS B/N 1/1

Mae gan Gymdeithas Hynafiaethwyr Castell-nedd restr o ordinhadau wedi'u dyddio 25 Ionawr 1541/2 sy'n set o reolau llym ar gyfer Bwrdeistref Castell-nedd. Roedd y rheolau, a luniwyd yn ystod teyrnasiad Brenin Harri'r Wythfed, yn rheoli ymddygiad Bwrdeiswyr a dinasyddion y Fwrdeistref. Mae llawer o agweddau ar fywyd pob dydd wedi'u cynnwys, fel masnachu a chyfraith a threfn. Y gosb ar gyfer torri'r ordinhadau hyn fel arfer oedd 'amersiad' (neu ddirwy ariannol) neu ddiarddel o gymuned fuddiant (gwahardd rhywun rhag bod yn aelod o gymuned y Fwrdeistref).

Mae dwy reol yn ymwneud yn benodol â menywod:

Neath Ordinances 18

18. Os bydd gan un o'r bwrdeiswyr wraig o Gymru, ac mae'n cwrdd â'i ffrindiau neu ei theulu ac yn bygwth ei chymdogion: os bydd rheithgor o chwe dyn yn ei heuogfarnu, bydd y bwrdeisiwr a'i wraig yn colli'u haelodaeth o'r fwrdeistref ac yn talu dirwy i'r brenin.

Neath Ordinances 26

26. Os bydd menyw yn dweud y drefn wrth fwrdeisiwr neu ei wraig, neu'n cynddeiriogi wrthynt, neu unrhyw un arall, boed yn ddyn neu'n fenyw, a bod rheithgor o chwe dyn yn ei heuogfarnu: ar gyfer y drosedd gyntaf, rhaid iddi eistedd ar gadair drochi am un awr ac am ddwy awr ar gyfer yr ail drosedd. Ar gyfer y drydedd drosedd, dylid gollwng y pin, oni bai ei bod yn talu dirwy dda i'r brenin.

Roedd cadair drochi'n cael ei defnyddio er mwyn cosbi ac achosi cywilydd cyhoeddus i fenywod anystywallt.

Can mlynedd yn hwyrach ym 1640 yn Abertawe, cofnodwyd y canlynol yng nghofnod Cyfrifon y Twrnai Cyffredin:

Wedi talu 6s am goeden i greu cadair drochi newydd
Wedi talu 3s 4d er mwyn ei thorri a'i siapio
Wedi talu 2s i Anthony Berrow i'w gwneud
Wedi talu 10d am glo ar ei chyfer
Wedi talu 1d am hoelion
Wedi talu 3d i Richard Thomas, cowper, i wneud cylchyn ar gyfer sedd y gadair
Wedi talu 2d ar gyfer darnau o bren i wneud sedd y gadair drochi
Wedi talu 4d i William Hugh, gof, i rybedu bollt y gadair drochi
Wedi talu 4d i Owen Howell, i osod post o dan pen y gadair drochi

Ni ddaethpwyd o hyd i dystiolaeth y defnyddiwyd cadeiriau trochi yn ein casgliadau, ond mae'r ffaith bod y gorfforaeth yn cynnal y gadair drochi'n awgrymu eu bod yn fodlon ei defnyddio o leiaf!

Close Dewis iaith