Toglo gwelededd dewislen symudol

Mesuryddion deallus mewn tai cyngor

Eich cyflenwr ynni sy'n gyfrifol am osod unrhyw fesuryddion deallus.

Bydd yn cynnwys:

  • mesurydd trydan a nwy deallus
  • dyfais arddangos yn y cartref - bydd y ddyfais hon yn dweud wrthych am eich defnydd o ynni mewn punnoedd a cheiniogau
  • hwb cyfathrebu - caiff hwn ei osod wrth ymyl y mesurydd trydan. Mae'n anfon ac yn derbyn gwybodaeth dros rwydwaith diogel i'ch dyfais arddangos yn y cartref ac at eich cyflenwr fel y gall gymryd darlleniadau o bell a'ch bilio'n gywir.

Manteision mesuryddion deallus i bawb

  1. Gall eich dyfais arddangos yn y cartref eich helpu i olrhain eich costau'n hawdd a deall lle y gallai eich defnydd o ynni fod yn fwy effeithlon.
  2. Ni fydd angen biliau amcangyfrifedig mwyach oherwydd y cysylltiad rhwng eich mesurydd a'r cyflenwr i rannu data.
  3. Gallai rhai tariffau deallus fod yn rhatach - gall mesuryddion deallus weithio mewn modd rhagdalu neu gredyd.

Manteision mesuryddion deallus i gwsmeriaid sy'n rhagdalu

  1. Gall cyflenwyr ynni gynnig ffyrdd newydd a mwy hyblyg i chi ychwanegu credyd. Felly efallai na fydd yn rhaid i chi fynd i siop.
  2. Mae eich dyfais arddangos yn y cartref yn dangos eich balans credyd. Felly ni fyddwch yn mynd yn brin o gredyd heb yn wybod i chi.
  3. Gallwch osod eich mesurydd i ychwanegu credyd yn awtomatig. Felly ni fyddwch heb gyflenwad os na fydd credyd ar ôl gennych yn ystod y nos neu pan fydd y siopau ar gau.
  4. Ni fydd angen i chi newid eich mesurydd os byddwch yn newid rhwng tariff rhagdalu a thariff credyd (gan gynnwys tariffau debyd uniongyrchol).

Sut i gael mesurydd deallus

I gael mesurydd deallus, cysylltwch â'ch cyflenwr ynni presennol a gofynnwch iddo'i osod.

Bydd naill ai'n trefnu apwyntiad neu'n rhoi gwybod i chi pan fydd yn bwriadu cyflwyno mesuryddion deallus yn eich ardal. Mae'r broses osod fel arfer yn cymryd tua dwy awr.

Os nad ydych yn siŵr pwy yw eich cyflenwr, gall gwefan Smart Energy GB (Yn agor ffenestr newydd) eich helpu gyda hyn.

Rhagor o wybodaeth

Arweinir y broses o gyflwyno mesuryddion deallus gan Lywodraeth y DU.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 20 Mai 2025