Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwmni o Gymru'n ennill contract adfywio allweddol yn Abertawe

​​​​​​​Mae cwmni o dde Cymru yn un o'r cyntaf i elwa o brosiect adfywio allweddol yng nghanol dinas Abertawe.

Ministry of Furniture

Ministry of Furniture

Mae Ministry of Furniture wedi'i benodi i ddylunio cynllun celfi a gosodiadau  hwb gwasanaethau cyhoeddus arfaethedig Cyngor Abertawe.

Bydd y busnes yn gweithio ar y contract gyda'r cyngor a'r prif gontractwyr, Kier Construction.

Meddai Graham Hirst, rheolwr-gyfarwyddwr Ministry of Furniture, "Roeddem wrth ein boddau i ennill y contract hwn mewn proses dendr gystadleuol a gynhaliwyd gan Kier."

Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Fel gyda chynlluniau allweddol eraill - fel Ffordd y Brenin, Wind Street ac Arena Abertawe, rydym am i'r hwb cymunedol hwn gynnig cymaint o waith â phosib i fusnesau Cymreig."

Meddai Cyfarwyddwr Rhanbarthol Kier Construction, Jason Taylor, "Rydym yn gwneud cynnydd da ar y prosiect o safon hwn a disgwyliwn i Ministry of Furniture gynnig proffesiynoldeb rhagorol fel y maent wedi'i wneud gyda phrosiectau eraill."

Bu Ministry of Furniture yn gweithio gyda'r cyngor ar y gwaith mwyaf diweddar i osod offer a dodrefn yn y Ganolfan Ddinesig, yn bennaf gyda chelfi a ailgynhyrchwyd. Maent yn bwriadu symud y rhan fwyaf o'r cyfarpar hwnnw i'r hwb newydd sy'n cael ei ddatblygu yn hen siop BHS a What! ar Stryd Rhydychen.

Bwriedir ailddatblygu'r Ganolfan Ddinesig wrth i raglen adfywio £1bn Abertawe barhau.

Llun Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart yn y canol, gyda Mark Miller o Kier Construction ar y chwith a Graham Hirst o Ministry of Furniture o flaen hwb gwasanaethau cyhoeddus arfaethedig y cyngor.