Toglo gwelededd dewislen symudol

Grwpiau cymunedol yn Abertawe'n agor eu drysau y gaeaf hwn

Mae dros 30 o sefydliadau cymunedol yn Abertawe bellach wedi cael eu hychwanegu at gyfeiriadur sy'n rhestru'r lleoedd diogel, cynnes a chroesawgar y gall pobl fynd iddynt yn ystod y gaeaf.

Swansea Space Generic

Swansea Space Generic

Mae gwasanaethau'r cyngor fel llyfrgelloedd a hybiau cymunedol hefyd ar y rhestr o Leoedd Llesol Abertawe lle gall pobl fod yn hyderus y byddant yn cael croeso cynnes ac yn cael eu trin ag urddas a pharch.

Gellir dod o hyd i'r rhestr yma: https://www.abertawe.gov.uk/LleoeddLlesolAbertawe

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Les, Alyson Pugh, "Ychydig dros wythnos sydd wedi bod ers i gyfeiriadur Lleoedd Llesol Abertawe fynd yn fyw, ac rydym wedi cael ymateb da iawn gan grwpiau cymunedol, elusennau a sefydliadau eraill sy'n darparu lleoedd llesol.

"Mae nifer o'r cynigion yn cynnwys gweithgareddau a chyfleoedd i gymdeithasu, felly yn ogystal â chynnig lle cynnes i bobl fynd iddo, rydym hefyd yn rhoi cyfle i bobl adael y tŷ, bod yn actif a chwrdd â phobl newydd os mai dyna maent yn dymuno ei wneud.

Mae'r cyngor hefyd yn sicrhau bod dros £80,000 o gyllid Llywodraeth Cymru ar gael i ddarparu grantiau i sefydliadau i'w helpu gyda chostau ychwanegol eu Lle Llesol yn Abertawe.

Oherwydd y galw disgwyliedig, awgrymir nad yw pobl yn gwneud cais am fwy na £2,200.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw dydd Llun 28 Tachwedd a chaiff pob cais ei asesu yn ôl ei rinwedd.

I weld cyfeiriadur Lleoedd Llesol Abertawe ac i ychwanegu lle, ewch i:  https://www.abertawe.gov.uk/LleoeddLlesolAbertawe 

I wneud cais am grant i gefnogi Lle Llesol yn Abertawe, ewch i: www.abertawe.gov.uk/cronfaLleoeddLlesolAbertawe

Close Dewis iaith