Toglo gwelededd dewislen symudol

Pyrth bwaog newydd yn cysylltu'r ddinas â'r môr

Mae tri phorth bwaog newydd bellach ar agor i gysylltu canol dinas Abertawe yn well â'r môr.

New marina archways

New marina archways

Mae'r pyrth bwaog - sydd wedi cymryd lle'r twnnel cul a oedd yno gynt - yn agos i'r LC rhwng yr ardal forol ac ardal newydd Bae Copr y ddinas sy'n werth £135m.

Mae'r ardal hefyd yn cynnwys Arena Abertawe, y parc arfordirol 1.1 erw a'r bont newydd dros Oystermouth Road.

Datblygwyd Bae Copr gan Gyngor Abertawe a chwmni RivingtonHark a oedd yn rheoli'r gwaith datblygu.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Glannau Abertawe fu rhan orau'r ddinas erioed, ond roedd Oystermouth Road wedi dod yn rhwystr rhwng canol y ddinas a'r promenâd a'r môr.

"Mae'r bont newydd eiconig dros y ffordd bellach yn ei lle i greu cysylltiadau gwell rhwng y ddwy ardal ac mae'r tri phorth bwaog hefyd ar agor, gan wneud yr ardal forol a'r glannau'n fwy hygyrch i gerddwyr a beicwyr.

"Mae'r pyrth bwaog yn rhan o'n hardal Bae Copr newydd sy'n werth cannoedd o swyddi ac £17.1m y flwyddyn i economi Abertawe. Mae'n rhan o fuddsoddiad parhaus yn Abertawe sy'n trawsnewid y ddinas yn un o fannau gorau'r DU i fyw, gweithio, astudio ac ymweld ag e'."

Mae nodwedd arena Bae Copr yn cael ei hariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe fel rhan o brosiect Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau sydd hefyd yn cynnwys yr adeilad swyddfeydd newydd yn 71-72 Ffordd y Brenin sy'n cael ei adeiladu'n awr.

Ariennir y bont dros Oystermouth Road yn rhannol gan grant Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.

Close Dewis iaith