Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Y cyngor yn lansio rownd ariannu newydd i helpu cymunedau i ffynnu

Mae Cyngor Abertawe wedi lansio rownd ariannu newydd ar gyfer syniadau a all ddod â bywiogrwydd newydd i gymunedau lleol.

Hygiene Bank Supporters

Hygiene Bank Supporters

Mae'r cyfle'n rhan o ymgyrch Cyllido Torfol Abertawe, cynllun sy'n helpu i gyflwyno syniadau arloesol a arweinir gan y gymuned i wella'r ddinas.

Gallai prosiectau cymwys dderbyn ernes gwerth £5,000 gan y cyngor tuag at eu targedau cyllido torfol.

I gael y cyfle i sicrhau'r arian, dylai grwpiau lleol gyflwyno'u syniadau ar wedudalen Cyllido Torfol Abertawe erbyn 23 Mawrth.

Mae'r rheini sydd wedi llwyddo mewn rowndiau cyllido blaenorol wedi cynnwys The Hygiene Bank, Abertawe.

Meddai Lesley Lloyd, Cydlynydd y  Prosiect, "Bydd yr arian yn caniatáu i ni symud i'n huned storio'n hunain yn gynt na'r disgwyl, gan ein galluogi i dderbyn rhoddion mwy y gallwn eu trosglwyddo i fwy o'r bobl hynny sy'n profi tlodi hylendid yn Abertawe."

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Andrew Stevens, "Rydym yn barod i gefnogi prosiectau sy'n rhoi pobl leol wrth wraidd yr ymdrechion i roi hwb i Abertawe.

"Rwyf hefyd yn galw ar gwmnïau a sefydliadau i ymuno â ni i gynnig cefnogaeth ar gyfer y syniadau y mae pobl yn eu cynnig ar wefan Cyllido Torfol Abertawe. Gallai hyn fod yn arian neu mewn nwyddau - unrhyw beth a all helpu i wneud prosiectau'n llwyddiant gwirioneddol."

Cynhelir ymgyrch Cyllido Torfol Abertawe gan y cyngor a phrif lwyfan cyllido torfol y DU, Spacehive. Ei nod yw ariannu a darparu syniadau oddi wrth y gymuned leol ac ar ei chyfer.

Hyd yn hyn, mae mwy na 800 o breswylwyr, busnesau a sefydliadau eraill wedi ymuno â'r cyngor i gefnogi 18 o syniadau; mae dros £157,000 wedi'i godi, gan roi hwb i brosiectau sy'n amrywio o gynlluniau glanhau traethau i gynlluniau e-feiciau, ac o gynaeafu ffrwythau i ddarparu offer chwaraeon.

Gall y rheini â diddordeb mewn cymryd rhan yn rownd ariannu nesaf Cyllido Torfol Abertawe, fel ariannwr neu er mwyn ariannu'ch prosiect eich hun, e-bostio info@spacehive.com.

Mae Spacehive yn bwriadu cynnal gweithdy am ddim ar-lein o 12.00pm ar 8 Chwefror, ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu rhagor. I gadw lle ewch i www.bit.ly/CSworkshop0802.

Llun: The Hygiene Bank Abertawe ar waith. Llun: The Hygiene Bank Abertawe

 

Close Dewis iaith