Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyfleusterau pêl-fasged yn cael eu gwella yn Abertawe

Mae chwaraewyr pêl-fasged Abertawe wedi derbyn hwb o ganlyniad i gyfleusterau newydd ym Mharc Victoria.

Basketball

Basketball

Gosodwyd dau bostyn pêl-fasged newydd ar gwrt y parc yn lle'r hen rai - a gosodwyd dau bostyn ychwanegol, gan ymestyn yr ardal pêl-fasged.

Mae hyn o ganlyniad i waith gan Gyngor Abertawe a Phêl-fasged Cymru gan ddefnyddio cyllid gan Chwaraeon Cymru.

Gall chwaraewyr yno bellach fwynhau'r gêm maint llawn am ddim, ynghyd â'r fersiwn #3x3 sy'n dod yn fwy poblogaidd.

Bydd ail gam y gwaith dros y misoedd nesaf yn cynnwys  wynebau cwrt paentiedig proffesiynol yr olwg.

Meddai Aelod Cabinet y Cyngor, Robert Francis-Davies, "Parc Victoria yw ein cwrt pêl-fasged awyr agored sy'n cael ei ddefnyddio fwyaf felly mae'n wych bod y cyfleuster wedi cael ei wella."

Meddai Prif Swyddog Gweithredol Pêl-fasged Cymru, Gavin Williams, "Rydym yn gyffrous ein bod ni'n gwneud gwelliannau i'r cyrtiau hyn.

"Diolch i Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru rydym wedi bod yn llwyddiannus yn ein cais am gyllid i brynu'r pedwar cylch pêl-fasged manyleb uchel newydd; byddant yn cynyddu'r cyfleoedd i ragor o bobl chwarae pêl-fasged yn y parc."

Roedd pedwar postyn pêl-fasged newydd Parc Victoria ar waith ddydd Sul, 21 Awst, ar gyfer eu digwyddiad mawr cyntaf - twrnamaint 3x3 Pêl-fasged Cymru a oedd wedi denu 40 o dimau a 160 o chwaraewyr o dde Cymru.

Mae gan y cyngor gysylltiadau agos gyda chlwb Storm Abertawe y mae ei aelodau'n awyddus i gynnal sesiynau mynediad agored ar y cyfleuster ar ei newydd wedd. Byddai'r rhain yn cyflwyno pobl ifanc i'r gamp.

Mae gan Barc Victoria hefyd gyfleusterau ar gyfer ymlacio, tenis, bowlio a chwarae i blant.

Llun: Parc Victoria. Llun: Pêl-fasged Cymru