Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwasanaethau cyhoeddus yn parhau i gael eu cryfhau

Mae gwasanaethau cyhoeddus hanfodol sy'n helpu i gefnogi pobl o bob oed ledled Abertawe'n parhau i gael eu cryfhau, yn ôl adroddiad newydd.

Guildhall

Guildhall

Yn ei adroddiad blynyddol mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe'n tynnu sylw at gynnydd gan sefydliadau'r sector cyhoeddus o ran cefnogi plant a theuluoedd, gwella iechyd a diogelu'r amgylchedd yn ogystal â byw a heneiddio'n dda.

Andrea Lewis, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Drawsnewid Gwasanaethau sy'n cadeirio'r BGC yn Abertawe, y mae ei haelodau'n cynnwys cyrff gwasanaethau cyhoeddus eraill fel y gwasanaeth tân ac achub, y bwrdd iechyd a Cyfoeth Naturiol Cymru.

Meddai'r Cyng. Lewis, "Ein gweledigaeth yw gweithio gyda'n gilydd i wneud Abertawe'n lle sy'n ffyniannus, lle gwerthfawrogir a chynhelir ein hamgylchedd naturiol a lle gall pob person gael y dechrau gorau mewn bywyd, cael swydd dda, byw'n dda, heneiddio'n dda a chael pob cyfle i fod yn iachus, yn hapus, yn ddiogel a'r gorau y gall fod.

"Eleni mae'r BGC wedi ymgymryd â darn mawr o ymchwil ar les yn Abertawe - bydd hyn yn ein helpu i ofyn i bobl Abertawe a'n partneriaid nodi amcanion ar gyfer ein Cynllun 2023 a gweithio tuag atynt.

"Fel mae'r adroddiad yn dangos, mae gwaith cyffrous yn digwydd i wella darpariaeth y blynyddoedd cynnar i'n plant ac i wneud Abertawe yn lle gwell fyth i fyw ynddo a lle mae pobl yn heneiddio'n dda.

"Mae sefydliadau sy'n aelodau'n parhau i newid y ffordd maen nhw'n gweithio i wella bioamrywiaeth a lleihau eu hôl troed carbon ac rydyn ni i gyd yn gweithio i gryfhau'n cymunedau fel bod pobl yn teimlo'n falch o ble maen nhw'n byw a bod ganddyn nhw ymdeimlad o berthyn.

"Cymerwch amser i ddarllen adroddiad eleni a gweld sut mae cyrff cyhoeddus yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl ar draws Abertawe.

"Croesawn adborth a syniadau ar gyfer sut i wella pethau ymhellach i'n helpu i gynllunio ar gyfer y pum mlynedd nesaf."

Corff statudol yw'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a'i aelodau craidd yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Cyfoeth Naturiol Cymru, Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru a Chyngor Abertawe.

I gael rhagor o wybodaeth am y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a'i rôl wth gefnogi cymunedau Abertawe, ewch i:https://www.abertawe.gov.uk/bgc

Gallwch hefyd gysylltu â'n Cydlynydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn uniongyrchol drwy e-bostioBGC.abertawe@abertawe.gov.uk

Close Dewis iaith