Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Maes pob tywydd i fod o fudd i filiynau o chwaraewyr

Mae maes pob tywydd newydd y bydd miloedd o chwaraewyr yn elwa ohono yn y blynyddoedd i ddod wedi'i osod yng Nghanolfan y Ffenics yn Townhill.

Phoenix Centre all-weather pitch

Phoenix Centre all-weather pitch

Cyngor Abertawe a ddarparodd y cyllid a oedd hefyd yn cynnwys uwchraddio'r llifoleuadau yn y lleoliad poblogaidd.

Mae'r cyngor hefyd yn gwella'r ardal gemau aml-ddefnydd gerllaw fel rhan o'r prosiect sy'n cynrychioli buddsoddiad o hyd at £300,000.

Gosodwyd hen faes y ganolfan tua 20 mlynedd yn ôl ac fe'i defnyddiwyd yn helaeth gan y gymuned gan gynnwys clybiau chwaraeon lleol.

Meddai'r Cyng. Francis-Davies, "Mae'r cyngor yn cydnabod bod gan chwaraeon fanteision iechyd corfforol, meddyliol a lles cyffredinol enfawr a dyna pam rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddarparu cyfleusterau modern a hygyrch i bawb.

"Bydd y maes hwn o fudd i filoedd o chwaraewyr o bob oed a dyma'r maes pob tywydd diweddaraf rydym wedi'i ariannu neu ddarparu cymorth ar ei gyfer yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn dilyn buddsoddiadau ym Mhenyrheol, Treforys, Pentrehafod, Tre-gŵyr, Llandeilo Ferwallt, Cyfadeilad Chwaraeon Elba ac yn Ysgol Gymunedol Dylan Thomas.

Mae Canolfan y Ffenics yn ganolfan fenter gymunedol flaengar sy'n cael ei rhedeg a'i rheoli gan Ymddiriedolaeth Datblygu Cymunedol The Hill.

Close Dewis iaith