Toglo gwelededd dewislen symudol

Digwyddiad am ddim i ddathlu'r Diwrnod Chwarae Cenedlaethol

Bydd Abertawe'n dathlu'r Diwrnod Chwarae Cenedlaethol gyda digwyddiad difyr am ddim lle bydd digon yn digwydd i ddifyrru plant a phobl ifanc.

National Playday (generic)

National Playday (generic)

Bydd y gweithgareddau yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn cynnwys sgiliau syrcas, celf a chrefft, chwaraeon a llawer o wahanol fathau o gemau, parth i blant bach a chaneuon a rhigymau yn Gymraeg.

Eleni bydd awr dawel hefyd i roi cyfle i blant a theuluoedd sy'n elwa oherwydd llai o sŵn ac ysgogiadau i gymryd rhan yn y cyfleoedd chwarae.

Cynhelir y digwyddiad ddydd Mercher 3 Awst ac fe'i trefnir gan Gyngor Abertawe fel rhan o'i ymrwymiad tuag at ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae, gyda chefnogaeth gan bartneriaid.

Bydd y dathliad yn rhedeg o 11am i 2pm, gyda'r awr dawel yn dechrau cyn hynny am 10am.

Meddai Hayley Gwilliam, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gefnogi Cymunedau, "Rydyn ni'n gwybod y gall gwyliau'r haf fod yn amser difyr ond drud i deuluoedd a dyna pam mae Cyngor Abertawe'n cynnal amrywiaeth o weithgareddau am ddim.

"Rydym wedi dathlu a chefnogi'r Diwrnod Chwarae Cenedlaethol ers blynyddoedd lawer ac mae bob amser yn ddiwrnod gwych a phoblogaidd iawn."

Close Dewis iaith