Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhybudd tywydd coch - Storm Darragh

Gwybodaeth am newidiadau i wasanaethau'r cyngor a chau lleoliadau ac atyniadau yn ystod cyfnod y rhybudd tywydd coch.

Seremoni Broclamasiwn i'w chynnal yn Neuadd y Ddinas

Cynhaliwyd seremoni broclamasiwn leol ar risiau Neuadd y Ddinas yn Abertawe heddiw.

proclamation ceremony

proclamation ceremony

Roedd y seremoni fer yn cynnwys y proclamasiwn swyddogol i nodi marwolaeth Ei Mawrhydi ac Esgyniad y Brenin Charles III.

Darllenwyd y Proclamasiwn yn gyhoeddus yn Gymraeg a Saesneg.

Cyhoeddwyd y Proclamasiwn gan Uchel Siryf Gorllewin Morgannwg, Stephen H Rogers Ysw YH ym mhresenoldeb Arglwydd Raglaw Gorllewin Morgannwg Ei Fawrhydi, Louise Fleet CStJ YH, Dirprwy Arweinydd Cyngor Abertawe Andrea Lewis, Arglwydd Faer Dinas a Sir Abertawe Mike Day a Chaplan yr Arglwydd Faer Brian Farr.

Mae Llyfr Cydymdeimlo wedi cael ei agor yn Abertawe y bore yma fel y gall aelodau'r cyhoedd dalu teyrnged i EM y Frenhines.Mae'r llyfr ar gael yn y Ganolfan Ddinesig o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.00am a 5.00pm ac ar fore dydd Sadwrn o 9.00am tan ganol dydd. Gall preswylwyr hefyd lofnodi'r llyfr cydymdeimlo ar-lein yma: www.abertawe.gov.uk/llyfrcydymdeimlad

Gellir gadael teyrngedau blodeuol yn y Rotwnda yn Neuadd y Ddinas yn ystod y cyfnod galaru cenedlaethol, a fydd yn parhau tan angladd Ei Mawrhydi yn Abaty San Steffan.

Bydd y cyngor hefyd yn goleuo Neuadd y Ddinas yn borffor gyda'r hwyr fel arwydd o barch drwy gydol y cyfnod.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Medi 2022