Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Busnesau'r ddinas yn cael cyngor am ddim ar ddod yn sero net

Bydd busnesau bach ar draws Abertawe'n cael help newydd i leihau allyriadau carbon

Net Zero Illustration

Net Zero Illustration

Cânt eu gwahodd i gwrs cyflwyniadol am ddim a fydd yn eu helpu i wneud eu hunain a'r ddinas yn garbon sero net dros y blynyddoedd nesaf.

Mae'r cwrs dwy awr yng nghanol y ddinas - a gynhelir ar 4 Hydref - yn cael ei gyflwyno gan Gyngor Abertawe mewn cydweithrediad â Future Clarity, busnes o Gymru sy'n canolbwyntio ar ddyfodol cynaliadwy.

Meddai Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd ar y Cyd y cyngor ac Aelod y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Thrawsnewid Gwasanaethau, "Fel rhan o'n nod i wneud y ddinas yn garbon sero net erbyn 2050, rydym yn ymroddedig i helpu busnesau i ddod yn fwy ymwybodol o'r hinsawdd a charbon."

Bydd y cwrs - Towards Carbon Zero - yn cael ei gynnal ddwywaith yn HQ Urban Kitchen, Orchard Street ar 4 Hydref am 9.30am ac 1pm. Gall gwesteion fynd i'r naill sesiwn neu'r llall.

Ei nod yw helpu mentrau bach a chanolig i gynllunio ar gyfer y dyfodol drwy gyflwyno'r ffyrdd y gall eu busnesau arbed ynni, lleihau gwastraff a lleihau allyriadau carbon. Bydd yn cynnig atebion ymarferol.

Mae'n gyfle i gwrdd â pherchnogion busnesau eraill sy'n awyddus i ddiogelu dyfodol eu mentrau mewn byd sy'n newid yn gyflym, wrth aros yn gystadleuol.

Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Adfywio Cymunedol y DU. Mae cyfanswm o 50 lle ar gael.

Gellir cadw lle am ddim yn: www.bit.ly/SMEoct4   

 

 

 

 

 

 

Close Dewis iaith