Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwerth £25,000 o gyllid ar gael i Men's Sheds y ddinas

Gall prosiectau Men's Sheds yn Abertawe wneud cais unwaith eto i Gyngor Abertawe am gyllid.

men shed money

men shed money

Mae ceisiadau bellach ar agor am gyfran o'r £25,000 mewn grantiau sydd ar gael i grwpiau presennol a rhai newydd.

Mannau cymunedol yw'r Men's Sheds lle gall pobl o bob cefndir gwrdd, sgwrsio a chymryd rhan mewn gweithgareddau os maent yn dymuno gwneud, er mwyn lleihau unigrwydd ac unigedd.

Maent yn rhan o rwydwaith sy'n ehangu o amgylch Abertawe a'r DU.

Yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, dyfarnwyd grantiau'n amrywio o £2,000 i £7,000 i saith prosiect sef

Action Shack, Eagle's Nest, Summit Good, Gweithdy Cymunedol Abertawe, Canolfan Les Abertawe, The Old Blacksmiths a Chlwb Criced Ynystawe

Gellir defnyddio'r cyllid ar gyfer agweddau cyfalaf a refeniw prosiectau ac mae'r grantiau'n agored i grwpiau sydd wedi cael cymorth yn y gorffennol.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Les, Alyson Pugh, "Mae Men's Sheds yn cael effaith gadarnhaol iawn ar iechyd a lles ac wrth leihau unigedd cymdeithasol trwy ddefnyddio'r sgiliau a'r profiad sy'n bodoli yn ein cymunedau."

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw dydd Iau 30 Mehefin 2022 a bydd angen gwario'r cyllid erbyn 31 Mawrth 2023.

Does dim isafswm neu uchafswm wedi'i osod ar gyfer ceisiadau, ond rhagwelir y bydd grantiau cyfartalog oddeutu £2,000.

Ceir rhagor o wybodaeth am Men's Sheds yn www.mensshedscymru.co.uk/

E-bostiwch tacklingpoverty@abertawe.gov.uk os hoffech drafod eich cais cyn ei gyflwyno.

Close Dewis iaith