Toglo gwelededd dewislen symudol

Siopwch yn Lleol, Siopwch ym Mhontarddulais

Mae gan Bontarddulais amrywiaeth o siopau, lleoedd i fwyta a chyfleusterau cymunedol.

Mae'r rhain yn amrywio o siopau trin gwallt, golchdy a'ch llyfrgell leol i ddanteithion blasus o bopty lleol, ynghyd â siop wafflau a lleoedd eraill i fwyta. Mae gan Bontarddulais lawer i'w gynnig.

Siopa'n lleol yw un o'r pethau y gall pobl ei wneud i gefnogi eu heconomi leol a sicrhau bod yr ardal yn elwa o swyddi ac arian. Er enghraifft, petai pawb ym Mhontarddulais yn gwario £5 yn ychwanegol bob wythnos yn eu busnesau annibynnol lleol, byddai hyn yn creu dros £1 miliwn* y flwyddyn ar gyfer economi Pontarddulais.

Ymwelwch â'r ganolfan leol hon i gefnogi'ch masnachwyr lleol.

Rhestr o fusnesau yn Pontarddulais (Excel doc) [14KB]
Pontarddulais - cynllun 1 (Station Road - St Teilo Street) (PDF) [2MB]
Pontarddulais - cynllun 2 (St Teilo Street) (PDF) [2MB]

Gwybodaeth am fusnesau: Mae'r wybodaeth sydd yn y dogfennau uchod yn seiliedig ar arolwg a gynhaliwyd ym mis Medi 2020 (gan gynnwys newidiadau dilynol rydym wedi'ch hysbysu yn eu cylch). Os yw'r wybodaeth sy'n ymwneud â busnes neu sefydliad bellach wedi dyddio, rhowch wybod i ni.

 

totallylocally.org (Yn agor ffenestr newydd)

Close Dewis iaith