Toglo gwelededd dewislen symudol

Skyline - Cwestiynau Cyffredin

Skyline: Cwestiynau Cyffredin - Ebrill 2023

Beth yw'r cynigion ar gyfer cyrchfan hamdden Skyline ar Fynydd Cilfái?

Mae cynigion Skyline yn cynnwys system ceir cebl a chadeiriau codi, profiad cartio i lawr llethr Skyline sydd wedi'i bweru gan ddisgyrchiant sef y car llusg, siglen awyr, llwybrau cerdded presennol a rhai newydd, weiren wib, unedau bwyd a diod ac ardaloedd picnic.  Byddai llwybrau beicio'n cael eu cadw, byddai rhai newydd yn cael eu creu, a byddai mynediad ychwanegol i feiciau mynydd yn cael eu cyflwyno. Byddai'r system car cebl arfaethedig yn rhedeg i ben Mynydd Cilfái o ardal Gwaith Copr yr Hafod-Morfa. Os cymeradwyir hyn, ni fyddai unrhyw agwedd ar y cynllun yn pasio uwchben cartrefi pobl. Os rhoddir caniatâd cynllunio ac os yw Skyline yn penderfynu bwrw ymlaen â'u cynigion, rhagwelir y bydd gwaith rhagarweiniol yn dechrau ar y safle tua diwedd y flwyddyn gyda disgwyl iddo gael ei gwblhau yn 2025.

Beth am yr amgylchedd lleol, bioamrywiaeth a mynediad i'r safle?

Mae'r cwmni'n dweud y byddai ffocws cryf ar yr amgylchedd naturiol, cynaladwyedd a bioamrywiaeth, bydd coed yn cael eu plannu a bydd gwelliannau amgylcheddol ar y Fynydd Cilfái, a bydd y cyhoedd yn gallu cael gwell mynediad i'r mynydd cyfan o hyd heb orfod defnyddio unrhyw gyfleusterau Skyline.

Pan fydd Skyline yn agor, a fydd gwirfoddolwyr coetir Mynydd Cilfái yn gallu ymgymryd â'u gweithgareddau gwerthfawr o hyd?

Bydd mynediad i'r mynydd yn parhau fel arfer, ond gyda rhai cyfyngiadau diogelwch y cyhoedd o amgylch cyfleusterau penodol. Bydd Skyline yn parhau i gysylltu â'r gwirfoddolwyr coetir, ac os yw'r gwirfoddolwyr am helpu gyda'r gwaith tirlunio ar y safle, mae Skyline yn hapus i ddechrau'r drafodaeth honno, os yw'r prosiect yn cael ei gyflwyno. 

Pa effaith fydd y prosiect hwn yn ei chael ar fywyd gwyllt a chynefin Mynydd Cilfái?

Byddai'n rhaid i'r cynllun arfaethedig fynd drwy broses gynllunio lawn, a rhagwelir y bydd y cais cynllunio'n cael ei gyflwyno'n ddiweddarach yn 2023 i'w ystyried. Byddai hyn yn cynnwys canolbwyntio ar yr amgylchedd naturiol a bioamrywiaeth. Bydd hefyd ffocws ar sicrhau bod cyn lleied o effaith â phosib ar yr amgylchedd naturiol. Bydd Skyline yn gwneud gwelliannau amgylcheddol a gwelliannau i'r tir cyhoeddus ar y mynydd. Efallai bydd angen cael gwared ar nifer o goed pinwydd er mwyn gosod peth o isadeiledd y prosiect. Byddai Skyline yn sicrhau bod coed eraill yn cael eu plannu yn eu lle, yn benodol rywogaethau collddail brodorol a fyddai'n helpu i gynnal edrychiad gwyrdd naturiol y mynydd a darparu cynefinoedd bywyd gwyllt mwy amrywiol.

Pa astudiaethau y mae Skyline yn eu cynnal ynghylch effaith bosib y cynllun ar ecoleg y mynydd?

Mae'r cwmni wedi comisiynu ymgynghorwyr ecolegol mawr eu parch, EDP i gynnal yr arolwg. Caiff yr arolwg ei astudio'n ofalus gan Skyline a bydd unrhyw waith arfaethedig a wneir ar y mynydd yn adlewyrchu barn arbenigol yr ymgynghorwyr.Os bydd Skyline yn cyflwyno cais cynllunio, cyhoeddir adroddiad yr arolwg a'r esboniad fel rhan o'r broses honno. Mae astudiaethau eraill yn cynnwys gwaith ymchwilio i'r safle, yn ogystal ag astudiaethau coedyddiaeth, treftadaeth ac ansawdd aer. Mae'r cwmni am leihau effaith y cynllun ar wyrddni a hyrwyddo bioamrywiaeth.

A fydd hyn yn cael effaith negyddol ar hawliau tramwy a mynediad cyhoeddus pobl ar Fynydd Cilfái? Neu a fydd pawb yn parhau i fwynhau'r mynediad di-dor sydd ganddynt ar hyn o bryd?

Bydd mynediad cyhoeddus yn cael ei gynnal. Mae Skyline am i bobl barhau i fwynhau'r mynydd. Bydd isadeiledd newydd ar y safle ond ni fyddai unrhyw ffensys o amgylch y safle, er wrth gwrs byddai angen cloi rhai cyfleusterau at ddibenion diogelwch yn ystod yr amserau nad ydynt ar agor. Mae cerddwyr, beicwyr, rhedwyr, beicwyr mynydd a grwpiau lleol yn defnyddio Mynydd Cilfái felly byddai Skyline yn sicrhau y cedwir mynediad i'r cyhoedd. Fel rhan o'r prosiect byddai gwelliannau pellach i'r mynydd o ran mynediad a chreu cynefinoedd - felly bydd yn parhau i fod yn fan gwyrdd i bawb.

Beth sy'n digwydd o ran cytuno ar ba leiniau o dir y gellir eu defnyddio i ddatblygu'r cynllun hwn?

Mae swyddogion y cyngor yn trafod y materion hyn â pherchnogion tir eraill er mwyn penderfynu pa dir sydd ei angen ar gyfer y prosiect. Bydd unrhyw drefniadau caffael neu fasnachol yn dibynnu ar gymeradwyaeth cynllunio a phenderfyniad Skyline ynghylch bwrw ymlaen â'r prosiect.

Sut bydd y cynllun hwn yn effeithio ar barcio ar Headland Road, St Thomas, y defnydd o'r heol breifat gyfagos, Dan y Beacon, a'r defnydd o ffyrdd lleol eraill?

Mae'r materion priffyrdd yn bwysig i'r cyngor a Skyline gan ein bod yn deall bod preswylwyr yn eu defnyddio i gael mynediad i'w cartrefi ac ar gyfer parcio. Bydd unrhyw newid arfaethedig i briffyrdd yn rhoi ystyriaeth lawn i ystyriaethau o'r fath.

Oni fydd y cynllun hwn yn arwain at gynnydd mewn traffig?

Bydd cynllun teithio'n cael ei gynnwys fel rhan o'r cais cynllunio'n ddiweddarach eleni.

A fydd y weiren wib neu elfennau eraill o'r cynllun yn pasio uwchben cartrefi pobl?

Na fyddant. Os yw'r cynllun yn cael ei gymeradwyo, bydd y weiren wib yn cael ei chynnwys o fewn ardal y mynydd. Ni fydd unrhyw agwedd ar y cynllun yn pasio uwchben cartrefi pobl.

Beth am y llwybrau beicio mynydd? Beth fydd yn digwydd iddyn nhw?

Mae Skyline wedi dechrau gweithio gyda grwpiau lleol i ddarparu'r elfen hon o'r cyfleuster. Byddai'r llwybrau'n dal i fod yn hygyrch i bawb, heb fod angen i feicwyr mynydd ddefnyddio unrhyw gyfleusterau Skyline. Mae Skyline yn bwriadu darparu gwasanaeth cludo i gopa Mynydd Cilfái ar ffurf gondola.

Beth sy'n cael ei gynnig ar gyfer y dyfodol?

Uchelgais Skyline Enterprises yw creu'r cyrchfan hamdden arfaethedig ar gopa Mynydd Cilfái, ac wrth wneud hynny, cynyddu nifer yr ymwelwyr â safle Gwaith Copr yr Hafod-Morfa lle bydd yr orsaf waelod. Mae disgwyl i'r brand diodydd o Gymru, Penderyn, agor canolfan ymwelwyr ar safle Gwaith Copr yr Hafod-Morfa yn ystod y misoedd nesaf fel rhan o adfywiad parhaus Cwm Tawe Isaf.

Sut gallwn fod yn sicr bod Skyline yn iawn ar gyfer Abertawe?

Mae Skyline Enterprises, cwmni o Seland Newydd, yn berchen ar ac yn gweithredu dau barc antur awyr agored, sy'n cynnwys reidiau ceir cebl ac atyniadau eraill a bwytai yn Seland Newydd, yn ogystal â pharciau ceir llusg yng Nghanada, De Korea a Singapore ac un cyn bo hir yn Malaysia. Mae'n gwmni a chanddo hanes da o greu a chynnal atyniadau i ymwelwyr, a gweithio gyda'r gymuned leol.

Oes unrhyw ymgynghoriad wedi bod hyd yma?

Ymwelodd tîm Skyline ag Abertawe ym mis Mawrth 2023 i gynnal cyfres o ddigwyddiadau ymgynghori yn y gymuned leol fel rhan o'r broses gynllunio. Mae gan Skyline hanes profedig o weithio'n agos gyda chymunedau lleol ym mhob un o'i safleoedd er mwyn bod o fudd i'r cymunedau wrth gyflwyno profiad difyr o ansawdd uchel i ymwelwyr. Bydd yr adborth a dderbyniwyd yn y digwyddiadau ymgynghori yn helpu i lunio cynlluniau terfynol sy'n debygol o gael eu cyflwyno ar gyfer caniatâd cynllunio yr haf hwn.

A fydd mwy o gyfleoedd i bobl gael dweud eu dweud?

Bydd. Mae disgwyl i Skyline gyflwyno cais cynllunio yn ystod y misoedd nesaf. Bydd digon o gyfleoedd i gael adborth fel rhan o'r broses honno.

Ydy'r cynllun yn beth da i bobl Abertawe? 

Os yw'r cynllun yn cael ei gymeradwyo, disgwylir iddo ddenu nifer sylweddol o ymwelwyr a hefyd greu hyd at 100 o swyddi newydd i bobl leol, a rhoi hwb economaidd pellach i'n dinas. Byddai busnesau a phreswylwyr lleol yn elwa o waith yn ystod cam adeiladu'r prosiect, a byddai busnesau presennol yn elwa o'r ymwelwyr ychwanegol y byddai'r prosiect yn eu denu i'r ardal, gan helpu i roi hwb pellach i adfywiad parhaus Cwm Tawe Isaf a choridor afon Tawe.

Ydy'r cyngor yn cynnig cymorth ariannol ar gyfer y prosiect?

Nid yw'r cyngor wedi darparu unrhyw gymorth ariannol yn uniongyrchol i Skyline hyd yn hyn, ond mae trafodaethau â'r cwmni ar gam datblygedig.

A fydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid?

Rhagor o wybodaeth yma

Oes angen rhagor o wybodaeth arnoch?

Mae Skyline yn gweithio i ddatblygu gwedudalen a fydd yn derbyn cyhoeddusrwydd unwaith y bydd yn fyw, er y bydd yr holl ddogfennaeth yn rhan o'r cais cynllunio.

Gellir hefyd anfon adborth ar y prosiect i Swansea.Development@skylineluge.com

Close Dewis iaith