Toglo gwelededd dewislen symudol

SoDdGA (Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig) a Chanolfan Bywyd Gwyllt Blackpill

Ym 1986 dynodwyd traeth Blackpill yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) er mwyn cydnabod ei bwysigrwydd i adar lleol a mudol sy'n aros yno dros y gaeaf er mwyn adfer eu nerth ar gyfer eu teithiau ar draws y byd o Affrica i'r Ynys Las a gwastatiroedd Rwsia.

Mae'r llaid a'r tywod yn gynefin perffaith i lawer o infertebratau morol sy'n ffynhonnell gyfoethog o fwyd ar gyfer tua 150 o rywogaethau o adar a gofnodwyd yma sy'n dibynnu arni.

O fis Hydref tan fis Mawrth, mae'r swyddfa ger Lido Blackpill yn troi'n Ganolfan Bywyd Gwyllt lle gall ymwelwyr wylio'r adar mudol megis pibydd y tywod, y cwtiad torchog a phioden y môr. Rheolir y ganolfan gan wirfoddolwyr o Gymdeithas Adaryddiaeth Gŵyr (GOS) a'r Gymdeithas Genedlaethol er Gwarchod Adar (RSPB). Mae ar agor ar fore Sul (10.00am tan 1.00pm) yn ystod misoedd y gaeaf i drigolion ac ymwelwyr ddysgu am yr adar mudol sy'n treulio'r gaeaf yno a'u gweld yn agos.

Dynodiadau

  • Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)

Close Dewis iaith