Toglo gwelededd dewislen symudol

Siop goffi yng nghanol y ddinas wedi'i 'chyffroi' gan ardal Bae Copr

Mae siop goffi yng nghanol dinas Abertawe sydd o fudd i bobl ag amrywiaeth o anableddau'n gyffrous ynghylch potensial datblygiad Bae Copr gerllaw.

Social Bean

Social Bean

Mae Social Bean, sydd yn Sgwâr y Santes Fair, yn cael ei rhedeg gan elusen Leonard Cheshire - elusen ryngwladol flaenllaw sy'n cefnogi pobl anabl.

Mae Helen Hall, Rheolwr Social Bean, a Lisa Gilchrist, Rheolwr Cynnwys y Gymuned Leonard Cheshire yng Nghymru, yn dweud y bydd datblygiad Bae Copr yn fuddiol i fenter gymdeithasol Social Bean oherwydd y nifer ychwanegol o ymwelwyr a'r gwariant y bydd yn ei gynhyrchu yn yr ardal.

Mae datblygiad cam un Bae Copr sy'n werth £135m yn cynnwys Arena Abertawe ac yn cael ei ddatblygu gan Gyngor Abertawe a'i gynghori gan y rheolwyr datblygu, RivingtonHark.

Mae holl elw Social Bean, sy'n cyflogi dau aelod o staff amser llawn a dau aelod o staff rhan-amser, yn cael ei fuddsoddi'n ôl i raglenni elusennol Leonard Cheshire yng Nghymru.

Mae nifer o wirfoddolwyr hefyd yn gweithio yn Social Bean gan gynnwys pobl ifanc o Ffrainc, Awstria a'r Almaen fel rhan o raglen gyfnewid.

Meddai Lisa Gilchrist, "Rwy'n credu bod datblygiad Bae Copr yn hollol wych i ganol Abertawe. Bydd yn dod â llawer mwy o bobl i mewn.

"Social Bean Abertawe yw'r fenter gymdeithasol gyntaf erioed i ni ei chael yn Leonard Cheshire, ac fe'i sefydlwyd i gefnogi pobl anabl naill ai i gael gwaith neu yn ôl i gyflogaeth, i'w helpu i fyw, dysgu a gweithio mor annibynnol ag y maent yn ei ddewis.

"Gall unrhyw un ddod yma, cael rhywfaint o hyfforddiant a rhywfaint o brofiad gwaith i feithrin eu sgiliau, eu profiad a'u hyder ac yna symud i gyflogaeth arall."

Ynghyd â siop goffi, mae gan Social Bean ystafell TG hefyd sy'n gwbl hygyrch i bobl ag anableddau, ynghyd â thoiled Changing Places.

Meddai Helen Hall, "Mae'r staff a'r gwirfoddolwyr yma'n gyffrous iawn am brosiect Bae Copr. Mae'r adeiladau sy'n rhan o'r datblygiad yn ddiddorol yn bensaernïol, maent yn perthyn i'r 21ain ganrif ac yn flaengar. Maen nhw'n cŵl ac yn hynod, felly maen nhw'n cyd-fynd â'r hyn rydyn ni'n ceisio'i wneud yma yn Social Bean.

"Bydd Bae Copr yn dod â mwy o ymwelwyr i ardal Social Bean, felly bydd gennym fwy o gwsmeriaid a mwy o gyfleoedd i wirfoddolwyr a lleoliadau profiad gwaith. Rydym hefyd yn bwriadu agor yn hwyrach yn y nosweithiau oherwydd sioeau'r arena a gweithgareddau eraill yno yn y dyfodol. Bydd hyn wedyn yn helpu i gynhyrchu mwy o arian i Leonard Cheshire a'r bobl rydym yn eu cefnogi ledled Cymru."

Yn ogystal ag Arena Abertawe, mae cynllun cam un Bae Copr a arweinir gan Gyngor Abertawe hefyd yn cynnwys parc arfordirol 1.1 erw, y bont newydd dros Oystermouth Road, fflatiau newydd, mannau parcio ceir newydd a lleoedd newydd i fusnesau hamdden a lletygarwch.

Amcangyfrifir bod yr ardal newydd sy'n dod i'r amlwg yn werth £17.1m y flwyddyn i economi Abertawe.

 

Close Dewis iaith