Toglo gwelededd dewislen symudol

Dinasyddion a chefnogwyr yn cael eu canmol am gefnogi miloedd o athletwyr

Roedd miloedd o breswylwyr Abertawe a bro Gŵyr wedi cefnogi a mwynhau penwythnos penigamp o chwaraeon.

Ironman 70.3 Swansea 2022

Canmolwyd pobl a phreswylwyr ar draws yr ardal am gefnogi dau ddigwyddiad mawr newydd - a derbyn rhai newidiadau i fywyd bob dydd a oedd yn angenrheidiol er mwyn gallu cynnal y digwyddiadau'n ddiogel.

Roedd digwyddiad Cyfres Para Treiathlon y Byd Volvo 2022 Abertawe ddydd Sadwrn a digwyddiad Ironman 70.3 Abertawe ddydd Sul wedi denu miloedd o athletwyr a gwylwyr. Mae wedi rhoi hwb sylweddol i'r economi leol.

Roedd y digwyddiadau hyn yn nodi diwedd wythnos gyfan o weithgarwch, gan gynnwys Gŵyl Parachwaraeon, a ysbrydolodd bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon a'i fwynhau.

Trefnwyd y digwyddiadau gam IRONMAN a Triathlon Prydain, ynghyd â chefnogwyr allweddol sef Cyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru.

Meddai Aelod Cabinet y Cyngor, Robert Francis-Davies, "Roedd hi'n wythnos wych, gyda'r ddau ddigwyddiad o'r radd flaenaf a gynhaliwyd ar y penwythnos yn goron ar y cyfan.

"Diolch i bawb a gymerodd ran, a'r rheini a drefnodd ac a gefnogodd y digwyddiadau, a diolch i holl breswylwyr a busnesau Abertawe a Gŵyr am eu hamynedd a'u dealltwriaeth wrth iddyn nhw wneud newidiadau i'w bywydau bob dydd. Rydym yn gwerthfawrogi bod y trefniadau cau ffyrdd wedi tarfu ychydig ar arferion bob dydd - ond maen nhw'n bwysig er mwyn i ni wneud digwyddiadau o'r fath mor ddiogel â phosib i bawb sy'n cymryd rhan ynddynt a phreswylwyr lleol."

Amcangyfrifir bod digwyddiad IRONMAN yn unig wedi rhoi hwb o £2.5m i'r economi.

Llun: IRONMAN yn dod i Abertawe.

 

 

Close Dewis iaith