Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Ymwelwyr â'r llyfrgell yn cael mynd ar daith uwch-dechnoleg yn ôl mewn amser

Bydd ymwelwyr â Llyfrgell Ganolog Abertawe'n mwynhau cipolwg rhyfeddol ar orffennol y ddinas yr wythnos hon - gydag arddull uwch-dechnoleg newydd o adrodd straeon.

King's Dock Swansea in days gone by

King's Dock Swansea in days gone by

Bydd cyfle i edrych ar straeon o'r ddinas o'r newydd diolch i brosiect sy'n cynnwys realiti rhithwir a realiti estynedig.

Disgwylir i'r profiad StoryTrails y gellir ymgolli ynddo ac sydd am ddim gael ei gynnal yn y Llyfrgell Ganolog ddydd Mercher a dydd Iau.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Elliott King, "StoryTrails yw'r prosiect adrodd straeon y gellir ymgolli ynddynt mwyaf yn y DU. Mae'n wych bod Abertawe'n un o'r 15 o leoliadau ac mae'n wych bod staff y llyfrgell yn cymryd rhan ynddo."

"Bydd digwyddiad yr wythnos hon yn caniatáu i bobl leol brofi Abertawe mewn ffordd newydd drwy hud RE a RRh. Byddant yn defnyddio technoleg newydd i deithio yn ôl mewn amser a phrofi hanesion cyffrous y ddinas. Mae'n mynd i fod yn ddeuddydd llawn hwyl i bobl leol."

Mae StoryTrails yn rhan o UNBOXED:  Creativity in the UK, dathliad arloesol o greadigrwydd a gynhelir ledled y DU yn 2022 dan arweiniad y Ganolfan Genedlaethol dros Adrodd Straeon y Gellir Ymgolli Ynddynt: StoryFutures Academy.

Bydd yn dod i'r Llyfrgell Ganolog yn y Ganolfan Ddinesig ddydd Mercher a dydd Iau o 11am tan 7pm, lle bydd pobl leol â doniau creadigol yn helpu i arddangos y straeon.

Meddai'r Athro James Bennett, cyfarwyddwr StoryFutures a StoryTrails, "Rydym am i bobl deimlo'n gyffrous ynghylch lle maent yn byw drwy eu helpu nhw i gysylltu â straeon am eu trefi a'u dinasoedd o'r gorffennol a'r presennol, a'u gweld nhw drwy lens wahanol.

"Gall technolegau newydd fel RE a RhR helpu i adeiladu ar y cysylltiadau hyn ac adfywio brwdfrydedd pobl am y gorffennol."

Rhagor:  www.story-trails.com/locations/swansea/

Llun: Doc y Brenin, Abertawe yn y gorffennol - llun gan StoryTrails Abertawe. Llun: Casgliad' y Werin Cymru/Gwasanaeth Llyfrgelloedd a Gwybodaeth Abertawe

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Close Dewis iaith