Toglo gwelededd dewislen symudol

Llawer i'w wneud yn y ddinas ar gyfer Haf o Hwyl

Mae tua 100 o brosiectau gwahanol a fydd yn helpu i gadw plant a phobl ifanc yn heini, yn iach ac yn hapus trwy gydol yr haf yn cael eu cynnal ar draws Abertawe.

Summer of fun generic

Summer of fun generic

Diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru, bydd Haf o Hwyl eleni yn y ddinas yn cynnig gweithgareddau cyffrous i bawb.  Mae'r rhaglen Haf o Hwyl yn rhedeg o fis Gorffennaf tan ddiwedd mis Medi. 

Mae'r mentrau'n cynnwys prosiectau chwaraeon, celf, crefft ac amgylcheddol, ynghyd â chefnogaeth i bobl ifanc sy'n dioddef o orbryder a phroblemau iechyd meddwl, yn ogystal â dosbarthiadau i fabanod y gall rhieni a gofalwyr fynd iddynt.

Am restr lawn o weithgareddau, dyddiadau ac amserau a sut i gofrestru, ewch i: https://www.abertawe.gov.uk/gweithgareddaugwyliau

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gefnogi Cymunedau, Hayley Gwilliam: "Dyma'r ail flwyddyn i Lywodraeth Cymru ariannu'r fenter Haf o Hwyl ac rwy'n ddiolchgar iawn bod dros £400,000 wedi'i ddyfarnu i  Abertawe ar gyfer eleni.

"Gwahoddwyd grwpiau cymunedol, clybiau chwaraeon a sefydliadau eraill i wneud cais am gymorth i gynnig gweithgareddau ac mae tua chant o brosiectau gwahanol yn Abertawe wedi sicrhau cyllid.

"Mae wedi bod yn wych gweld yr amrywiaeth o syniadau a chyfleoedd sy'n cael eu cyflwyno er mwyn i blant a phobl ifanc fwynhau eu hunain."

Close Dewis iaith