Toglo gwelededd dewislen symudol

Gorymdaith i ddathlu llwyddiant celf gyhoeddus yng nghanol y ddinas

Mae gorymdaith liwgar a digwyddiad dathlu yng nghanol y ddinas wedi nodi diwedd ffurfiol llwybr celf gyhoeddus poblogaidd yn Abertawe.

Procession for The World Reimagined

Procession for The World Reimagined

Bydd y globau enfawr a ddyluniwyd gan artistiaid, a oedd yn ganolbwynt menter The World Reimagined y ddinas yn aros yn Sgwâr Dewi Sant tan ganol y mis hwn.

Yna byddant yn mynd ar eu taith olaf i gael eu harddangos yn Sgwâr Trafalgar yn Llundain.

Ffarweliwyd â'r prosiect yn Abertawe gyda diwrnod o fwyd, cerddoriaeth, celf, crefftau a dawnsio. 

Cynhaliwyd y prosiect o amgylch y ddinas gan Gyngor Abertawe.

Yn bresennol yn ystod yr orymdaith a'r digwyddiad i nodi diwedd y prosiect yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau oedd ein partneriaid o Ganolfan Gymunedol Affricanaidd y ddinas.

Meddai aelod y cabinet, Elliot King, "Diolch i bawb a gymerodd ran yn y fenter ac yn y digwyddiad a'r broses ffarwelio."

Meddai cydlynydd cymunedol The World Reimagined, Cleo Lake, "Daeth pobl o bob oedran a chefndir at ei gilydd ar gyfer yr orymdaith."

Mae The World Reimagined yn ceisio trawsnewid sut rydym yn deall yr hen fasnach mewn Caethweision o Affrica a'i heffaith ar bob un ohonom.

Rhagor o wybodaeth: www.theworldreimagined.org

Llun: Cyffro'r orymdaith ffarwelio ar gyfer menter The World Reimagined Abertawe.

 

 

 

Close Dewis iaith