Toglo gwelededd dewislen symudol

Disgyblion a staff yn dechrau blwyddyn newydd mewn cartref newydd

Mae disgyblion a staff mewn ysgol gynradd ffyniannus yn dechrau eu blwyddyn newydd mewn cartref newydd gwerth £9.9m.

Tan-y-lan_group

Tan-y-lan_group

Dywedodd pawb yn Ysgol Gymraeg Tan-y-lan ffarwel wrth yr hen adeiladau Fictoraidd yn Tan-y-lan Terrace yn Nhreforys cyn y Nadolig a byddant yn dechrau'r tymor hwn mewn ysgol newydd sbon yn y Clâs.

Fe'i hariannwyd gan Gyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru dan raglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif.

Meddai Robert Smith, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, "Bûm yn ffodus i ymuno â rhai o'r disgyblion ar daith o gwmpas yr adeilad newydd y tymor diwethaf ac mae'n rhaid i mi ddweud bod y cyfleusterau'n wych.

"Rwy'n dymuno'r gorau i'r disgyblion a'u teuluoedd a'r holl staff wrth iddynt ddechrau bywyd yn YGG newydd Tan-y-lan ac edrychaf ymlaen at ymweld eto wedi iddynt ymgartrefu yno. Rwy'n siŵr y bydd yr amgylchoedd newydd yn eu hysbrydoli yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod.

"Mae hyn wrth gwrs yn rhan o stori llawer mwy wrth i Gyngor Abertawe a'n partneriaid yn Llywodraeth Cymru fuddsoddi tua £170m er mwyn gwella adeiladau ac isadeiledd ysgolion yn Abertawe, mwy nag sydd erioed wedi'i fuddsoddi o'r blaen.

"Mae hyn yn gwella ysgolion cynradd ac uwchradd ym mhob ardal yn Abertawe gan roi'r cyfleoedd gorau posib i ddisgyblion gyrraedd eu potensial llawn."

Bydd cartref newydd YGG Tan-y-lan yn Hill View Crescent, a adeiladwyd gan y contractwyr Kier, yn caniatáu iddi ateb y galw cynyddol am addysg Gymraeg yn Abertawe ac ehangu wrth i niferoedd dyfu.

Meddai'r Pennaeth, Berian Jones, "Mae ein disgyblion a'n staff uwchben eu digon â'r adeilad a'r cyfleusterau newydd. Rydym i gyd yn gyffrous iawn i ddechrau'r tymor newydd mewn lleoliad newydd!

"Hoffwn ddiolch i Gyngor Abertawe, Llywodraeth Cymru a Kier (y contractwr) am weithio'n agos gyda ni a darparu'r adeilad newydd gwych hwn.

"Edrychwn ymlaen at eu croesawu i Ysgol Gymraeg Tan-y-lan yn y dyfodol agos."

Close Dewis iaith