Toglo gwelededd dewislen symudol

Preswylwyr yn rhoi adborth gwerthfawr ar gynlluniau ar gyfer stad o dai

Mae preswylwyr sy'n byw ar stad o dai yn rhoi eu barn ar gynlluniau i adfywio'r lleoliad.

Plan for Tudno & Emrys

Plan for Tudno & Emrys

Mae'r cyngor wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer adfywio Heol Emrys a Tudno Place ym Mhen-lan.

Y nod yw moderneiddio eiddo'r cyngor, adeiladu cartrefi rhentu cymdeithasol newydd a chreu cymuned fwy diogel.

Mae'r cyngor wedi gweithio gyda'r ymgynghorwyr Powell Dobson Architects i greu'r prif gynllun ac mae bellach yn dadansoddi barn y preswylwyr. Gall preswylwyr fynegi barn bellach.

Cafodd preswylwyr gyfle i weld y cynigion a siarad â swyddogion y cyngor mewn arddangosfa gyhoeddus. Mae'r cynlluniau ar gael ar-lein i bawb eu gweld.

Mae llawer o'r dyluniad presennol wedi'i ddatblygu, gan ystyried sylwadau a wnaed gan y preswylwyr yn ystod ymgynghoriad cynharach.

Meddai cyd-ddirprwy arweinydd y cyngor, Andrea Lewis: "Rydym yn cyflwyno'n cynlluniau diweddaraf i breswylwyr. Dengys yr adborth cychwynnol eu bod yn eu hystyried yn welliant enfawr i'w cymuned.

"Maen nhw'n parhau i gael y cyfle i fod yn rhan o'r gwaith gwella hwn i'w cartrefi a gofyn cwestiynau am y cynigion.

"Byddwn yn sicrhau eu bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf."

Rhagor: www.bit.ly/TudnoEmrysPlan

Close Dewis iaith