Toglo gwelededd dewislen symudol

Tŷ Matthew

Adeilad cynnes a chroesawgar yng nghanol Abertawe yw Tŷ Matthew, ac mae'n hygyrch i'r rheini sy'n ddigartref neu'n agored i niwed yn Abertawe. Darperir prydau twym ar gyfer y rheini sydd mewn angen.

Banciau bwyd a chymorth bwyd arall

Mae Matthew's House yn darparu prydau poeth mewn argyfwng i'r rheini sydd mewn perygl o golli'u cartrefi.

Matt's Café

Caffi sy'n atal gwastraff bwyd ac sy'n caniatáu i chi dalu'r hyn a fynnoch yw Matt's Cafe. Mae hyn yn golygu y byddwch yn cael eich trin yn gyfartal os na allwch fforddio talu a gallwch fwynhau pryd yno, waeth beth yw'ch sefyllfa - does dim rhaid rhoi cyfraniad ariannol.

Bwyd cartref poeth (cludfwyd ar gael ond dewch â'ch cynhwysydd eich hun):

  • Dydd Llun a dydd Mawrth, 11.30am - 1.45pm
  • Dydd Sul, 7.00pm - 8.45pm

Pryd cludfwyd

Cynhyrchion mislif am ddim

  • Dydd Sul, 7.00pm - 8.45pm
  • Dydd Llun, 11.30am - 1.45pm
  • Dydd Mawrth, 11.30am - 1.45pm

Ar ddydd Llun a dydd Mawrth mae cawodydd a chyfleusterau golchi dillad ar gael (atgyfeiriadau'n unig), ynghyd ag eiriolaeth gyfeillgar a chefnogaeth gan sefydliadau proffesiynol Cynnyrch hylendid ar gael ar ddydd Mawrth. Mae popeth yn rhad ac am ddim ar sail talu fel y dymunwch.

Enw
Tŷ Matthew
Cyfeiriad
  • 82 Y Stryd Fawr
  • Abertawe
  • SA1 1LW
Gwe
https://matthewshouse.org.uk/
Rhif ffôn
07708 115903

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 05 Tachwedd 2024