Gadewch i ni fynd yn ôl mewn amser ar gyfer arddangosfa Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop
Mae golygfeydd a synau Abertawe yn ystod y rhyfel ac erchyllterau'r Blitz Tair Noson wedi'u hadfywio yn arddangosfa Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop Amgueddfa Abertawe.


Agorodd yr arddangosfa a fydd yn para drwy gydol yr haf y mis hwn ac mae'n cynnwys straeon, arteffactau a delweddau o'r gymuned yn ystod y rhyfel a ddioddefodd ymosodiad gan Luftwaffe y Natsïaid ym mis Chwefror, 1941, a hawliodd fywydau 230 o bobl ac a ddinistriodd gryn dipyn o ganol y dref.
Mae'r arddangosfa'n cynnwys ffotograffau nas gwelir yn aml o albwm Cyngor Dinas Abertawe o'r dinistr a achoswyd gan y cyrchoedd. Mae darnau o fomiau, yn ogystal â photeli gwydr i'w gweld hefyd ynghyd â blychau metel a ailffurfiwyd gan ddwyster y gwres o'r tanau a gychwynnwyd.
Un rhan yn unig yw'r arddangosfa hon o ystod o ddigwyddiadau a digwyddiadau coffa sy'n cael eu cefnogi gan Gyngor Abertawe, yn dilyn trafodaethau â grwpiau a sefydliadau lleol, gan gynnwys cyn-filwyr a'r gangen leol o'r Lleng Brydeinig Frenhinol.
Cynhelir digwyddiadau coffa swyddogol Diwrnod VE 80 yn y DU o Ŵyl y Banc, 5 Mai, ac maent yn parhau tan 8 Mai, sef Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut i fynd ati i gau ffordd ar gyfer eich parti stryd yn: https://www.abertawe.gov.uk/trefnupartistryd
Cynghorir unrhyw rai sy'n trefnu parti stryd i yswirio'u digwyddiad.
A dyma fanylion am ddigwyddiadau Diwrnod y Fuddugoliaeth yn Ewrop a gefnogir gan y cyngor:
O 11 Ebrill
Amgueddfa Abertawe - Arddangosfa VE80
8 Mai
Christchurch - Gwasanaeth Diwrnod VE ar gyfer Cyn-filwyr, 11.30am
Castell Ystumllwynarth - Goleuo'r ffagl am 9.30pm
Neuadd y Ddinas, Abertawe
Goleuadau i goffáu Diwrnod VE
11 Mai
Digwyddiad i goffáu Diwrnod VE, Gwn Gwrthawyrennol, Pont Tawe
Gorymdaith i goffáu Diwrnod VE o Dŷ John Chard am 1.30pm i gyrraedd Mystwyr Abertawe (Eglwys y Santes Fair) am 2pm
Gwasanaeth i goffáu Diwrnod VE, Mystwyr Abertawe (Eglwys y Santes Fair), canol y ddinas, 1.45pm
Ar gael nawr
Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg
Darllenwch am hanes Abertawe yn ystod yr Ail Ryfel Byd drwy ddilyn y dolenni hyn
https://www.abertawe.gov.uk/archifaurhyfelailadeiladu
https://www.abertawe.gov.uk/archifaublits
https://www.abertawe.gov.uk/archifaublitstairnoson
https://www.abertawe.gov.uk/cofebaurhyfelcudd
Oriel Gelf Glynn Vivian
Mae detholiad o ddarnau o Gasgliad Parhaol yr Oriel yn Ystafell 7, gan gynnwys cyfres Will Evans o baentiadau am y Blitz Tair Noson yn Abertawe, Coed Mametz gan Edward Handley-Read, a gwaith Ceri Richards.
Ar-lein ceir adran sy'n ymroddedig i waith Will Evans ar ein gwefan, lle gallwch hefyd wrando ar hanesion llafar o gasgliad yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol (IWM).
https://www.glynnvivian.co.uk/casgliadau/blitz-tair-noson-abertawe/?lang=cy