Gŵyl Tân ac Iâ newydd syfrdanol yn dod i ganol y ddinas y penwythnos hwn
Bydd canol dinas Abertawe'n disgleirio'r penwythnos hwn wrth i dân ac iâ feddiannu'r strydoedd fel rhan o sioe Nadoligaidd ysblennydd.
Gall ymwelwyr ddilyn llwybr o gerfluniau iâ disglair, tynnu lluniau hudolus yn y glôb eira enfawr ar Stryd Portland, a rhoi cynnig ar gerfio iâ rhyngweithiol.
Bydd hefyd sioeau tân ac iâ yn St David's Place a pherfformiadau tân deinamig ar Stryd Rhydychen.
Gall teuluoedd gwrdd â dynion eira a chymeriadau o ffilm boblogaidd Frozen a fydd yn crwydro ar hyd y strydoedd drwy gydol y dydd, a gall y rhai sy'n dwlu ar gerddoriaeth fynd i Gaban y Carolwyr a noddir gan Costa Coffee.
Mae rhaglen gerddoriaeth fyw'r penwythnos yng Nghaban y Carolwyr yn cynnwys:
Dydd Sadwrn 6 Rhagfyr
· 10am-11am: Village Voices
· 11am-12pm: Mumbles Lifeboat Singers
· 1pm-2pm: Hot Gin Swing
· 2.30pm-3.30pm: The Phoenix Choir of Wales
· 4pm-5pm: The J Tones
Dydd Sul 7 Rhagfyr
• 11am-11.45am: Rock Choir
• 12pm-1pm: Cymdeithas Cerddorion Prifysgol Abertawe
• 2pm-3pm: Choirs for Good
• 3.30pm-4.30pm: Chris Haul
Meddai'r Cyng. Rob Stewart , Arweinydd Cyngor Abertawe , "Rydym am sicrhau mai dyma'r Nadolig gorau erioed yn Abertawe.
"O gerfluniau iâ disglair i berfformiadau a cherddoriaeth fyw, mae rhywbeth hudol i bawb ei fwynhau'r penwythnos hwn yn yr Ŵyl Tân ac Iâ, sy'n cael ei chynnal am y tro cyntaf yng nghanol y ddinas.
"Mae'r ŵyl yn dilyn digwyddiad arobryn Gorymdaith y Nadolig.
"Mae'n un o nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau sy'n cael eu cynnal yn Abertawe yn y cyfnod cyn y Nadolig wrth i ni geisio gwneud y tymor mor gofiadwy â phosib i deuluoedd a phobl leol, gan hefyd gefnogi ein busnesau gwych yng nghanol y ddinas gyda'r cynnydd mewn nifer yr ymwelwyr sy'n deillio o'r digwyddiadau hyn."
Mae digwyddiadau a gweithgareddau Nadoligaidd eraill yn cynnwys Marchnad y Nadolig sydd bellach ar agor ar Stryd Rhydychen a Portland Street tan 22 Rhagfyr.
Mae Gwledd y Gaeaf ar y Glannau hefyd bellach wedi dychwelyd i Barc yr Amgueddfa tan 4 Ionawr.
I gael rhagor o wybodaeth am holl ddigwyddiadau'r tymor yn Abertawe a'r union amserau ar gyfer gweithgareddau'r Ŵyl Tân ac Iâ, ewch i https://www.croesobaeabertawe.com/nadolig-abertawe/
