Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwnewch gais nawr am gyllid i gefnogi preswylwyr y gaeaf hwn

Bydd pecyn cymorth a chefnogaeth helaeth ar gael i bobl ifanc, teuluoedd ac unigolion yn Abertawe'r gaeaf hwn, a gall elusennau a grwpiau cymunedol nawr wneud cais am gyllid.

Port Tennant Community Centre launch of Winter Grant

Port Tennant Community Centre launch of Winter Grant

Mae Cyngor Abertawe yn sicrhau bod mwy na £600,000 ar gael fel rhan o'i ymgyrch Yma i Chi y Gaeaf hwn i helpu'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd gyda chostau'r Nadolig a'r gaeaf, gwyliau ysgol neu breswylwyr sy'n wynebu unigrwydd neu ynysu.

Meddai Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, "Unwaith eto byddwn yn arwain y ffordd yng Nghymru drwy gefnogi miloedd o'n preswylwyr y gaeaf hwn.

"Bydd bwyd am ddim a thalebau siopa bwyd ar gael i sicrhau bod teuluoedd a phlant sy'n agored i niwed yn gallu cael y bwyd y mae ei angen arnynt yn ystod y gwyliau, a byddwn yn sicrhau bod lleoedd cynnes a chroesawgar ar gael i bobl ddod ynghyd os ydynt yn teimlo'n unig neu'n ynysig. Byddwn hefyd yn darparu cymorth i'n banciau bwyd lleol a darparwyr bwyd eraill yn ystod y cyfnod hwn o alw mawr.

"Bydd cymorth wedi'i dargedu ar gyfer teuluoedd ac unigolion a rhaglen fawr o ddigwyddiadau cost isel ac am ddim ar gyfer pobl iau a hŷn.

"Bydd y cymorth hwn yn ategu llawer o fentrau eraill sy'n cael eu rhedeg gan y cyngor, gan gynnwys y cynnig bysus am ddim sy'n dychwelyd ar ddyddiadau penodol yn y cyfnod cyn y Nadolig a thros y Flwyddyn Newydd, a all arbed hyd at £20 y dydd mewn costau teithio i deulu o 4."

Mae ceisiadau bellach ar agor i elusennau, grwpiau cymunedol a chlybiau wneud cais am grantiau os ydynt yn rhedeg unrhyw un o'r cynlluniau canlynol:

  • Bwyd am ddim i ddisgyblion yn ystod gwyliau'r Nadolig a gwyliau hanner tymor.
  • Lleoedd Llesol Abertawe sy'n darparu mannau cynnes a chroesawgar i bobl ddod i gymdeithasu a chymryd rhan mewn gweithgareddau.
  • Cymorth Bwyd Brys drwy fanciau bwyd a mentrau cymunedol ac elusennol eraill sy'n mynd i'r afael â thlodi bwyd ac ansicrwydd bwyd.
  • Gweithgareddau i bobl ifanc a theuluoedd ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau'r ysgol.
  • Gweithgareddau i bobl hŷn yn ystod y gaeaf.

Gall sefydliadau gyflwyno cais yn: https://www.abertawe.gov.uk/grantGaeafLlawnLles

Y dyddiad cau i wneud cais yw Medi 29 fel y gall y grantiau gyrraedd y sefydliadau hynny sydd wedi bod yn llwyddiannus mewn pryd ar gyfer y gaeaf.

Mae'r rhan fwyaf o'r grantiau'n cael eu hariannu gan y cyngor ac mae eraill yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 17 Medi 2025