Grant Gaeaf Llawn Lles 2025 / 2026
Mae'r grant hwn yn cyfuno pum cynllun cyllido yn un grant:
- COAST (Creu Cyfleoedd ar draws Abertawe Gyda'n Gilydd) - Plant a phobl ifanc
- COAST (Creu Cyfleoedd ar draws Abertawe Gyda'n Gilydd) - 50 oed ac yn hŷn
- Lleoedd Llesol Abertawe
- Grant Bwyd yn ystod y Gwyliau
- Cymorth Bwyd Brys
Gall ymgeiswyr wneud cais am un neu fwy o gynlluniau o'r grant hwn.
Pwy sy'n gymwys i wneud cais?
Cyrff cyhoeddus, sefydliadau elusennol neu wirfoddol, y rhieni ag amcanion elusennol ac nid er elw preifat*.
*PPI a 50+ COAST yn unig.
Meini prawf y gronfa
Amlinellir dibenion y cynlluniau cyllido fel a ganlyn:
COAST (Creu cyfleoedd ar draws Abertawe gyda'n gilydd)
Sut i wneud cais
Llenwch y ffurflen gais a chyflwynwch yr wybodaeth ychwanegol angenrheidiol sy'n ofynnol. Gall peidio â darparu'r wybodaeth sy'n ofynnol arwain at oedi wrth asesu'ch cais neu gall y cais fod yn anghymwys i'w ystyried.
Lefelau ariannu
Hyn a hyn o arian sydd ar gael - asesir pob cais yn ôl ei haeddiant, gan gynnwys gwerth am arian.
Fel canllaw, byddem yn awgrymu bod yr uchafswm y gallwch ofyn amdano ar gyfer pob cynllun fel a ganlyn:
- PPI COAST - £2,500
- 50+ COAST - £2,500
- Lleoedd Llesol Abertawe - £2,250
- Grant bwyd yn ystod y gwyliau - £2,500
- Cymorth Bwyd Brys - refeniw yn unig £900
Os hoffech drafod eich cais cyn ei gyflwyno, neu os hoffech wneud cais am fwy na'r symiau a awgrymir, e-bostiwch tacklingpoverty@abertawe.gov.uk (ar gyfer ymholiadau Lleoedd Llesol Abertawe, Bwyd yn Ystod y Gwyliau a Chymorth Bwyd Brys) a GrantiauPaCh@abertawe.gov.uk (ar gyfer ymholiadau COAST).
Dyddiadau cau
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 12 ganol dydd, dydd Llun 29 Medi 2025.
Ni fydd ceisiadau a gyflwynir ar ôl y dyddiad cau hwn yn cael eu hystyried.
Asesir pob cais yn erbyn y meini prawf uchod gan banel sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r cyngor a'r trydydd sector. Bydd y panel yn ceisio ystod amrywiol o weithgareddau hygyrch ar draws y ddinas sy'n cynnig gwerth am arian ac sy'n denu cynulleidfaoedd newydd i brofiadau newydd.
Os oes gormod o geisiadau na'r cyllid sydd ar gael, rhoddir blaenoriaeth i'r prosiectau hynny mewn ardaloedd lle mae angen penodol - nodweddion daearyddol a gwarchodedig.
Mae penderfyniad y Panel yn derfynol; ni chaiff apeliadau eu hystyried.
Meini prawf y cais a'r asesiad
Caiff yr holl geisiadau eu hasesu yn erbyn y meini prawf isod a bydd angen i ymgeiswyr arddangos y canlynol:
- Statws sefydliadol / amcanion elusennol.
- Y bydd y cyllild yn bodloni meini prawf y gronfa ac yn diwallu unrhyw angen / anghenion a nodwyd.
- Tystiolaeth o angen.
- Hygyrchedd a chyfloedd cyfartal.
- Dadansoddiad ariannol llawn o'r arian y cyflwynwyd cais amdano.
- Gwerth am arian.
Caiff ceisiadau eu cymeradwyo ar gyfer grwpiau sy'n meddu ar y canlynol ac sy'n ei ddarparu'n unig:
- Dogfennau neu gyfansoddiad llywodraethu cyfredol.
- Cyfrif banc busnes priodol.
- Cyfrifon archwiliedig - neu os yw'n grŵp newydd, cyfriflenni banc cyfredol.
- Polisïau Diogelu priodol - Diogelwch Plant, Oedolyn Agored i Niwed, anabledd a/neu unrhyw ofynion diogelu priodol eraill.
- Polisïau Corfforaethol priodol - Cydraddoldeb, Y Gymraeg, amgylcheddol (*COAST yn unig).
Cysulltwch â Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe (CGGA) gydag unrhyw ymholiadau ynghylch y rhestr uchod. E-bost: scvs@scvs.org.uk / Ffôn: 01792 544400