Toglo gwelededd dewislen symudol

Grant Gaeaf Llawn Lles 2025 / 2026 - Grant Bwyd yn ystod y Gwyliau

Grant Bwyd yn ystod y Gwyliau - cyflwynir yn ystod cyfnodau gwyliau'r ysgol rhwng 25 Hydref 2025 a 22 Chwefror 2026

Pwrpas y cyllid yw helpu gyda darparu mynediad at fwyd yn ystod gwyliau'r ysgol i blant oedran ysgol a'u teuluoedd sy'n cael trafferth gyda'r costau ychwanegol dros wyliau'r ysgol heb fynediad at brydau ysgol am ddim. (Gellir gwneud cais am gymorth bwyd i bobl a theuluoedd heb blant oed ysgol i'r rhan Cymorth Bwyd Brys o'r grant hwn, neu y tu allan i'r cyfnod amser hwn).

Rydym am weithio gyda chi i ddarparu cymorth ychwanegol i deuloedd â phlant er mwyn gwella'r mynediad at fwyd o ansawdd da.

Pwrpas y cyllid yw darparu cymorth ychwanegol sy'n helpu i liniaru tlodi bwyd plant ac ansicrwydd bwyd yn ystod gwyliau'r ysgol drwy:

  • Ddarparu pecynnau bwyd, neu fynediad at fwyd (e.e. dosbarthu talebau bwyd fel y bo'n briodol) y gellir mynd ag ef oddi ar y safle neu
  • Ddarparu bwyd / prydau o fwyd o ansawdd da ar y safle.

Mae gwariant cymwys yn cynnwys y canlynol (yn Abertawe):

  • Costau ar gyfer darparu / paratoi bwyd ychwanegol a ddarparwyd i'w fwyta yn eich prosiect.
  • Costau ar gyfer darparu bwyd ychwanegol neu fynediad at fwyd (e.e. talebau bwyd) y gellir mynd ag ef oddi ar y safle.
  • Costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â dosbarth / casglu bwyd.
  • Treuliau ychwanegol ar gyfer gwirfoddolwyr.

Er mwyn sicrhau gwerth am arian, byddem yn disgwyl na fydd y gost fesul pryd yn fwy na £5 y pen.

Mae'r cyllid sydd ar gael ar gyfer gwariant refeniw yn unig.

Bydd angen gwario'r cyllid erbyn 28 Chwefror 2026.

Grant Gaeaf Llawn Lles 2025 / 2026 - Gwneud cais ar-lein

Gwnewch gais ar-lein am y Grant Gaeaf Llawn Lles.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 17 Medi 2025