Toglo gwelededd dewislen symudol

Grant Gaeaf Llawn Lles 2025 / 2026

Mae'r grant hwn yn cyfuno pum cynllun cyllido yn un grant:

  1. COAST (Creu Cyfleoedd ar draws Abertawe Gyda'n Gilydd) - Plant a phobl ifanc
  2. COAST (Creu Cyfleoedd ar draws Abertawe Gyda'n Gilydd) - 50 oed ac yn hŷn
  3. Lleoedd Llesol Abertawe
  4. Grant Bwyd yn ystod y Gwyliau
  5. Cymorth Bwyd Brys

Gall ymgeiswyr wneud cais am un neu fwy o gynlluniau o'r grant hwn.

Pwy sy'n gymwys i wneud cais?

Cyrff cyhoeddus, sefydliadau elusennol neu wirfoddol, y rhieni ag amcanion elusennol ac nid er elw preifat*.

*PPI a 50+ COAST yn unig.

Meini prawf y gronfa

Amlinellir dibenion y cynlluniau cyllido fel a ganlyn:

COAST (Creu cyfleoedd ar draws Abertawe gyda'n gilydd)

Lleoedd Llesol Abertawe

Grant Bwyd yn ystod y Gwyliau

Cymorth Bwyd Brys


Sut i wneud cais

Llenwch y ffurflen gais a chyflwynwch yr wybodaeth ychwanegol angenrheidiol sy'n ofynnol. Gall peidio â darparu'r wybodaeth sy'n ofynnol arwain at oedi wrth asesu'ch cais neu gall y cais fod yn anghymwys i'w ystyried.

Lefelau ariannu

Hyn a hyn o arian sydd ar gael - asesir pob cais yn ôl ei haeddiant, gan gynnwys gwerth am arian.

Fel canllaw, byddem yn awgrymu bod yr uchafswm y gallwch ofyn amdano ar gyfer pob cynllun fel a ganlyn:

  1. PPI COAST - £2,500
  2. 50+ COAST - £2,500
  3. Lleoedd Llesol Abertawe - £2,250
  4. Grant bwyd yn ystod y gwyliau - £2,500
  5. Cymorth Bwyd Brys - refeniw yn unig £900

Os hoffech drafod eich cais cyn ei gyflwyno, neu os hoffech wneud cais am fwy na'r symiau a awgrymir, e-bostiwch tacklingpoverty@abertawe.gov.uk (ar gyfer ymholiadau Lleoedd Llesol Abertawe, Bwyd yn Ystod y Gwyliau a Chymorth Bwyd Brys) a GrantiauPaCh@abertawe.gov.uk (ar gyfer ymholiadau COAST).

Dyddiadau cau

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 12 ganol dydd, dydd Llun 29 Medi 2025.

Ni fydd ceisiadau a gyflwynir ar ôl y dyddiad cau hwn yn cael eu hystyried.

Asesir pob cais yn erbyn y meini prawf uchod gan banel sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r cyngor a'r trydydd sector. Bydd y panel yn ceisio ystod amrywiol o weithgareddau hygyrch ar draws y ddinas sy'n cynnig gwerth am arian ac sy'n denu cynulleidfaoedd newydd i brofiadau newydd.

Os oes gormod o geisiadau na'r cyllid sydd ar gael, rhoddir blaenoriaeth i'r prosiectau hynny mewn ardaloedd lle mae angen penodol - nodweddion daearyddol a gwarchodedig.

Mae penderfyniad y Panel yn derfynol; ni chaiff apeliadau eu hystyried.

Meini prawf y cais a'r asesiad

Caiff yr holl geisiadau eu hasesu yn erbyn y meini prawf isod a bydd angen i ymgeiswyr arddangos y canlynol:

  • Statws sefydliadol / amcanion elusennol.
  • Y bydd y cyllild yn bodloni meini prawf y gronfa ac yn diwallu unrhyw angen / anghenion a nodwyd.
  • Tystiolaeth o angen.
  • Hygyrchedd a chyfloedd cyfartal.
  • Dadansoddiad ariannol llawn o'r arian y cyflwynwyd cais amdano.
  • Gwerth am arian.

Caiff ceisiadau eu cymeradwyo ar gyfer grwpiau sy'n meddu ar y canlynol ac sy'n ei ddarparu'n unig:

  • Dogfennau neu gyfansoddiad llywodraethu cyfredol.
  • Cyfrif banc busnes priodol.
  • Cyfrifon archwiliedig - neu os yw'n grŵp newydd, cyfriflenni banc cyfredol.
  • Polisïau Diogelu priodol - Diogelwch Plant, Oedolyn Agored i Niwed, anabledd a/neu unrhyw ofynion diogelu priodol eraill.
  • Polisïau Corfforaethol priodol - Cydraddoldeb, Y Gymraeg, amgylcheddol (*COAST yn unig).

Cysulltwch â Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe (CGGA) gydag unrhyw ymholiadau ynghylch y rhestr uchod. E-bost: scvs@scvs.org.uk / Ffôn: 01792 544400

COAST - Meini prawf y gronfa

Mae Cronfa COAST yn adeiladu ar rowndiau blaenorol COAST a'i rhagflaenwyr.

Lleoedd Llesol Abertawe - Meini prawf y gronfa

Diben y cyllid yw cefnogi darparu lleoedd diogel a chynnes yn y gymuned leol y gall pobl fynd iddynt i elwa o ryngweithio cymdeithasol.

Grant Bwyd yn ystod y Gwyliau - Meini prawf y gronfa

Pwrpas y cyllid yw helpu gyda darparu mynediad at fwyd yn ystod gwyliau'r ysgol i blant oedran ysgol a'u teuluoedd sy'n cael trafferth gyda'r costau ychwanegol dros wyliau'r ysgol heb fynediad at brydau ysgol am ddim.

Cymorth Bwyd Brys - Meini prawf y gronfa

Diben y gronfa yw cefnogi nifer cynyddol o bobl sy'n wynebu tlodi bwyd ac ansicrwydd bwyd drwy gryfhau mentrau bwyd cymunedol sydd mewn bod yn Abertawe, gan gynnwys rhoi ffocws ar weithgarwch sy'n helpu i fynd i'r afael â gwir achosion tlodi bwyd.

Grant Gaeaf Llawn Lles 2025 / 2026 - Gwneud cais ar-lein

Gwnewch gais ar-lein am y Grant Gaeaf Llawn Lles.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 17 Medi 2025