Toglo gwelededd dewislen symudol

Addysg 'Plant sy'n Derbyn Gofal'

Pan fydd plentyn yn gorfod mynd i ofal, gwneir pob ymdrech i sicrhau y gall y disgybl aros yn yr ysgol y mae'n mynd iddi. Nid yw hyn bob amser yn bosib a bydd yn dibynnu ar amgylchiadau unigol.

Yn Abertawe, lleolir tîm Addysg Plant sy'n Derbyn Gofal (APDG) yn Nhŷ'r Cocyd a gall darparu cefnogaeth i ddisgyblion.

Arweinir y tîm APDG gan Gydlynydd Addysg Plant sy'n Derbyn Gofal. Mae'r tîm yn darparu cymorth a chefnogaeth i ddisgyblion sy'n gorfod mynd i ofal i ymgartrefu os bydd angen iddynt newid ysgolion. Gallant hefyd ddarparu arweiniad a chefnogaeth pan fydd disgybl yn gorfod mynd i ofal ond sy'n gallu aros yn ei ysgol. Gall y tîm hefyd gysylltu a gofalwyr maeth, rhieni ac asiantaethau erailll sy'n cefnogi'r person ifanc a'i deulu.

Gellir cysylltu â'r Tîm ADPG drwy ffonio: 01792 522946.

Yn ogystal, mae gan yr holl ysgolion Berson Dynodedig - athro yn aml, ac weithiau'r pennaeth - a fydd yn cefnogi'r person ifanc pan fydd yn gorfod mynd i ofal. Rhaid bod gan bob person ifanc sy'n mynd i ofal Gynllun Addysg Personol (CAP) o fewn 20 niwrnod i ddod yn blentyn sy'n derbyn gofal. Bydd y Person Dynodedig yn gyfrifol am lunio'r CAP a dylai'r person ifanc gyfrannu at y CAP. Rhaid cynnal cyfarfod adolygu ar gyfer pob person ifanc sy'n derbyn gofal o leiaf unwaith y flwyddyn ac anogir pob person ifanc i fynd i ran o'r cyfarfod neu'r cyfarfod cyfan. Mae hyn yn gyfle i gwrdd a'r holl bobl sy'n cefnogi'r person ifanc gyda'i gilydd, a hefyd sicrhau yr ystyrir eu meddyliau a'u hanghenion.

Close Dewis iaith