Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhybudd tywydd coch - Storm Darragh

Gwybodaeth am newidiadau i wasanaethau'r cyngor a chau lleoliadau ac atyniadau yn ystod cyfnod y rhybudd tywydd coch.

Addysg ddewisol yn y cartref - cwestiynau cyffredin

Dyma rai cwestiynau i'w hystyried cyn penderfynu addysgu eich plentyn gartref.

(Cyfeirnod: Addysg Ddewisol yn y Cartref Llywodraeth Cymru: Gwybodaeth i Rieni a Gofalwyr 2017).

  • Ydy'ch plentyn yn gadarnhaol o ran yr awgrym o gael ei addysgu gartref?
  • Ydych chi o'r farn mae hwn yw'r penderfyniad gorau i'ch plentyn?
  • Oes gennych chi'r amser i'w ymroi i addysg eich plentyn?
  • Oes gennych y gallu i addysg eich plentyn yn effeithiol?
  • A fyddwch chi'n gallu addysgu eich plentyn at y lefel ofynnol os yw am sefyll arholiadau TGAU?
  • Ydych chi'n barod i brynnu'r adnoddau angenrheidiol?
  • Oes gennych le i greu ardal weithio dawel?
  • Oes cyfleoedd ar gyfer gweithgarwch corfforol?
  • A fydd profiadau cymdeithasol gyda phlant eraill ar gael?
  • Ydych chi'n siwr nad ydych yn dewis addysgu gartref fel ffordd o osgoi cweryla gyda Phennaeth neu ysgol, neu fel esgus dros beidio ag anfon eich plentyn i'r ysgol ar amser neu'n rheolaidd?

 


Ar ba oedran mae addysg yn orfodol?

Mae'n ofynnol yn ol y gyfraith i blentyn dderbyn addysg o ddechrau'r tymor sy'n dilyn ei ben-blwydd yn bump oed tan ddydd Gwener olaf mis Mehefin y flwyddyn acadmaidd pan fydd yn cyrraedd 16 oed.

Beth yw addysg ddewisol yn y cartref?

Term a ddefnyddir i ddisgrifio sefyllfa pan fydd rhieni'n* addysgu eu plant gartref yn hytrach na'u hanfon i ysgol yw addysg ddewisol yn y cartref - cyfeirir ato weithiau fel ADdC. Yng Nghymru, fel gweddill y DU, mae addysg yn orfodol ond nid oes rhaid mynd i'r ysgol.

Pam y byddwn yn dewis addysgu fy mhlentyn gartref?

Gall nifer o resymau ddylanwadu ar eich penderfyniad i addysgu eich plentyn gartref, gan gynnwys credoau athronyddol, ysbrydol neu grefyddol. Efallai eich bod hefyd yn teimlo eich bod yn gallu diwallu anghenion a dull dysgu unigol eich plentyn yn well nag ysgol.

Ni ddylai ysgol nag awdurdod lleol eich annog i dynnu eich plentyn oddi ar gofrestr ysgol er mwyn osgoi bod eich plentyn yn cael ei wahardd neu eich bod chi'n cael eich erlyn.

Mae gennyf ddiddordeb mewn addysgu fy mhlentyn gartref. Beth ddylwn i ei wneud?

Os ydy'ch plentyn yn yr ysgol, dylech ysgrifennu at y Pennaeth yn gofyn iddo dynnu enw eich plentyn oddi ar y gofrestr am eich bod yn bwriadu bod yn gyfrifol am ei addysg.

Bydd y pennaeth wedyn yn rhoi gwybod i Tîm Addysg Ddewisol yn y Cartref.

Os nad yw eich plentyn erioed wedi bod i'r ysgol, nid oes angen i chi roi gwybod i'r ysgol, dim ond y Tim Addysg Ddewisol yn y Cartref.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Pan rydych yn dechrau addysgu eich plentyn gartref, bydd yr awdurdod lleol yn ysgrifennu atoch ac yn anfon llyfryn arweiniad a gweithdrefn sy'n pennu ein cyfrifoldebau penodol, ynghyd a gwybodaeth ar gyfer rhieni a'u cyfrifoldebau.

Bydd cynrychiolydd o'r Tim Addysg Ddiwisol yn y Cartref yn cysylltu a chi o fewn chwe wythnos i ganfod sut rydych yn diwallu anghenion eich plentyn wrth ddarparu addysg. Byddant yn cynnig cyfarfod anffurdiol yn eich cartref er mwyn trafod eich cynlluniau. Mae llawer o rieni'n gweld hyn yn fuddiol ond efallai eich bod am gwrdd rhywle arall.

Byddwch hefyd yn derbyn gwybodaeth am sefydliadau sy'n cefnogi rhieni sy'n addysgu eu plant yn y cartref.

Beth fydd yn digwydd os yw'n ymddangos nad wyf yn darparu addysg addas?

O dan Adran 437(1) Deddf Addysg 1996, mae gan awdurdodau lleol gyfrifoldeb i weithredu os yw'n ymddangos nad yw rhieni'n darparu addysg addas.

Bydd yr awdurdod lleol yn cynnig gwneud ymweliad cartref gyda'r nod o'ch helpu i oresgyn yr anawsterau o fewn amserlen gytunedig.

Os nad ydych yn gallu profi i'r awdurdod lleol eich bod yn darparu addysg addas, ac mae'n teimlo bod angen i'ch plentyn fynychu'r ysgol, gall gyflwyno Gorchymyn Mynychu'r ysgol i chi.

Am fwy o wybodaeth am Orchmynion Mynychu'r Ysgol, gweler Fframwaith Presenoldeb Cymru Gyfan: https://gov.wales/all-wales-attendance-framework

Beth ddylwn i ei wneud os oes gan fy mhlentyn ddatganiad o anghenion addysgol arbennig (AAA)?

Mae'r un weithdrefn yn berthnasol os oes gan eich plentyn ddatganiad AAA ac mae'n mynychu ysgol brif ffrwd. Fodd bynnag, os yw rhiant yn dymuno rhoi ADdC i blentyn sydd a datganiad o anghenion addysgol arbennig, mae'n rhaid iddo ysgrifennu i'r Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY): Gwasanaethau Partneriaeth Rhieni er mwyn cyflwyno cais i'w achos gael ei gyflwyno i'r panel ADY. 

Bydd y Panel ADY yna'n penderfynu a yw'r rheini'n gallu darparu addysg ddigonol sy'n addas ar gyfer oedran, gallu a dawn y plentyn ac unrhyw ADY y gall fod ganddo, fel a nodwyd yn adran 7 Deddf Addysg 1996. Yn  y nail achos neu'r llall, mae'n rhaid bod yr addysg a ddarperir gennych yn bodloni nodau'r datganiad AAA.

Bydd yr awdurdod lleol yn parhau i gynnal adolygiad blynyddol tra bo'r datganiad yn berthnasol.

Mae gennych yr hawl i apelio i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (TAAAC).

Oes angen i mi fod yn athro er mwyn gallu addysgu yn y cartref?

Nac oes, nid oes rhaid i chi fod yn athro ac nid oes rhaid i chi feddu ar unrhyw gymwysterau.

Beth sydd angen i mi ei addysgu?

Eich cyfrifoldeb fel rhiant yw sicrhau bod yr hyn a addysgir yn helpu eich plentyn i ddysgu.

Mae'n rhaid i'r addysg rydych yn ei darparu fod yn effeithlon ac yn addas. O dan Adran 7 Deddf Addysg 1996, eich cyfrifoldeb chi fel rhiant yw sicrhau bod eich plentyn yn derbyn addysg amser llawn effeithlon sy'n addas i'w oedran, ei allu a'i ddoniau ac unrhyw anghenion addysgol arbennig y gall fod ganddo.

Gellir gwneud hyn mewn ysgol neu fel arall. Ystyrir bod addysg yn effeithlon ac yn addas os yw'n caniatau i blentyn gyflawni ei botensial ac os yw'n ei baratoi ar gyfer bywyd fel oedolyn.

Oes angen i mi ddilyn y cwricwlwm cenedlaethol?

Nac oes, ond efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi ei ddefnyddio fel fframwaith er mwyn penderfynu pa bynciau i'w cynnwys a sut i asesu cyflawniad eich plentyn. Gallwch gael copi o'r Cwricwlwm Cenedlaethol oddi ar wefan Dysgu Cymru: https://hwb.gov.wales/curriculum-for-wales-2008/

A fyddaf yn derbyn unrhyw gyllid neu gefnogaeth?

Os ydych yn penderfynu addysgu eich plentyn gartref, mae'n rhaid i chi fod yn barod i gymryd y cyfrifoldeb ariannol llawn, gan gynnwys talu am unrhyw arholiadau cyhoeddus.

Er nad yw awdurdodau lleol yn derbyn unrhyw gyllid ar gyfer teuluoedd sy'n penderfynu addysgu eu plant yn y cartref, mae sawl awdurdod lleol yn hoffi dod i adnabod rhieni ac, mewn rhai achosion, darparu cefnogaeth.

A fydd fy mhlentyn yn cael sefyll arholiadau?

Bydd. Gallwch gofrestru eich plentyn i sefyll arholiadau yn eich canolfan arholiadau allanol leol - coleg addysg bellach yn aml. Fodd bynnag, bydd angen i chi dalu am y gost eich hun. Gall yr awdurdod lleol ddweud wrthych am leoliad eich canolfannau arholiadau lleol.

Ydy fy mhlentyn yn gallu dychwelyd i'r ysgol?

Ydy, ond bydd angen i chi gysylltu a Tîm Derbyniadau.

A fydd fy mhlentyn yn gallu elwa o wasanaethau?

Bydd, gall plentyn ADdC gael mynediad at wasanaethau cyffredinol megis Gyrfa Cymru, Tim am y Teulu (TAT), Info-Nation, Gwasanaeth Cwnsela Exchange a gwasanaethau iechyd, sgrinio ac imiwneiddio o hyd.


(*Diffinnir rhiant neu ofalwr at ddibenion y daflen hon fel unrhyw berson a chyfrifoldeb rhiant o dan Ddeddf Addysg 1996.)

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 02 Gorffenaf 2024