Toglo gwelededd dewislen symudol

Addysg Gymraeg yn Abertawe

Mae nifer o fanteision i Addysg Gymraeg. Mae ymchwil yn profi mai dyma'r ffordd orau o sicrhau bod plant yn ddwyieithog yn y Saesneg a'r Gymraeg.

Mae'n ddefnyddiol iawn fel sgil yn y gweithle, gyda'r gallu i siarad Cymraeg yn sgil hanfodol neu ddymunol ar gyfer nifer cynyddol o swyddi.

Mae Llywodraeth cymru hefyd wedi ymrwymo i ddatblygu cymru ddwyieithog trwy ei strategaeth iaith Gymrae, 'Cymraeg 2050', gyda gweledigaeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050.

Y siwrne

Meddwl am addysg Gymraeg i dy blentyn? Mae 'na groeso mawr ar y siwrne.

Blynyddoedd Cynnar: Dechrau'n Deg

Rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw Dechrau'n Deg ac mae ar gael mewn ardaloedd a dargedir er mwyn cefnogi pob teulu i roi dechrau teg mewn bywyd i blant 0-3 oed.

Nod y cynllun yw darparu gwasanaethau cefnogi dwys i blant 0-3 oed a'u teuluoedd. Mae ffocws y rhaglen ar hyrwyddo iaith, sgiliau gwybyddol, cymdeithasol ac emosiynol, datblygiad corfforol a nodi anghenion dwys yn gynnar.

Blynyddoedd Cynnar: Mudiad Meithrin a thu hwnt

Sesiynau Cymraeg i Blant

Mae sesiynau Cymraeg i Blant yn gyfle gwych i rieni gymdeithasu a dechrau defnyddio'r Gymraeg gyda'u babi neu blentyn. Edrycha am Cymraeg i Blant ar Facebook am fanylion pellach.

Ti a Fi

Mae dros 500 o grwpiau rhieni a babanod Ti a Fi mewn pentrefi a threfi ledled Cymru. Mae babis a phlant bach hyd at ddwy oed yn cael cyfle i gyd-chwarae, gwrando ar straeon a chanu caneuon Cymraeg.

Mae croeso cynnes i'r Cymry Cymraeg a'r di-Gymraeg ac mae'n lle gwych i wneud ffrindiau newydd - i oedolion a phlant. Mudiad Meithrin, sefydliad allweddol sy'n cefnogi dysgu yn y blynyddoedd cynnar yng Nghymru, sy'n rhedeg y grwpiau Ti a Fi.

Grwpiau chwarae Cymraeg

Mae Mudiad Meithrin hefyd yn trefnu grwpiau chwarae - Cylchoedd Meithrin - i blant 2-4 oed. Mae'n oedran pwysig i ddysgu iaith ac mae plant yn cael cyfle i ddysgu trwy chwarae. Nid yw rheini'n aros gyda'u plant yn y grwpiau hyn.

Plant 4-11 oed

Pa bynnag iaith y byddwch chi'n siarad yn y cartref, gall addysg cyfrwng Cymraeg roi sgiliau ychwanegol i blant a mwy o gyfleoedd ar gyfer y dyfodol. Felly hyd yn oed os nad ydych chi'n siarad Cymraeg eich hun, beth am ystyried addysg cyfrwng cymraeg i'ch plentyn? Mae 10 o ysgolion cynradd cyfrwng cymraeg dynodedig yn Abertawe: Ysgolion cynradd Cymraeg.

Pobl ifanc 11-18 oed

Mae ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg yn bwydo ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg, lle bydd eich plentyn yn astudio ac yn sefyll arholiadau yn y Gymraeg. Mae dwy ysgol uwchradd cyfrwng cymraeg ddynodedig yn Abertawe: Ysgolion uwchradd Cymraeg.

16 oed a thu hwnt (tu allan i'r ysgol)

Mae mwy nag un o bob pump o ddisgyblion yng Nghymru bellach yn mynychu ysgol cyfrwng Cymraeg. Felly, os ydych chi wedi astudio yn Gymraeg hyd yma, sut ydych chi'n parhau i ddysgu ar ol i chi adael yr ysgol?

Nid yw eich taith iaith Gymraeg yn dod i ben pan fyddwch yn cwblhau eich astudiaaethau TGAU! Mae ein dwy ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn cynnig ystod eang o opsiynau Lefel A neu efallai y byddwch yn dewis mynd i'r coleg ac astudio un o'r nifer o gyrsiau sydd ar gael yng Ngholeg Gŵyr Abertawe trwy gyfrwng y Gymraeg: Gower College/speaking Welsh (Yn agor ffenestr newydd).

Y daith at ddwy iaith

Y daith at ddwy iaith - dewis addysg Gymraeg.