Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhybudd tywydd coch - Storm Darragh

Gwybodaeth am newidiadau i wasanaethau'r cyngor a chau lleoliadau ac atyniadau yn ystod cyfnod y rhybudd tywydd coch.

Adolygiad achos ymddygiad gwrthgymdeithasol (Sbardun Cymunedol)

Mae'r adolygiad achos ymddygiad gwrthgymdeithasol yn caniatáu i ddioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus, sydd wedi adrodd am ddigwyddiadau i un neu fwy o asiantaethau yn flaenorol, ofyn i'w hachos gael ei adolygu pan fônt yn teimlo nad yw'r camau gweithredu a gymerwyd wedi bod yn ddigonol.

Bydd rhoi'r adolygiad achos ymddygiad gwrthgymdeithasol ar waith yn dod ag asiantaethau perthnasol ynghyd i rannu gwybodaeth, adolygu'r camau gweithredu a gymerwyd a cheisio dod o hyd i ateb a fydd, gobeithio, yn atal digwyddiadau tebyg rhag digwydd eto.

At ddibenion yr adolygiad achos ymddygiad gwrthgymdeithasol, diffinnir ymddygiad gwrthgymdeithasol fel 'ymddygiad sy'n peri aflonyddwch, braw neu ofid i bobl nad ydynt yn byw yn yr un aelwyd'.

Pwy all ddefnyddio'r adolygiad achos ymddygiad gwrthgymdeithasol?

  • Dioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol.
  • Rhywun sy'n cynrychioli dioddefwr megis gofalwr, cynghorydd neu aelod o'r teulu. Rhaid cael caniatâd gan y dioddefwr cyn cyflwyno'r cais.
  • Cymunedau neu fusnesau

Mynd i wefan yr adolygiad achos ymddygiad gwrthgymdeithasol (Yn agor ffenestr newydd)

Os nad ydych wedi adrodd am ymddygiad gwrthgymdeithasol o'r blaen

Os ydych wedi dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol ond heb ddweud wrth unrhyw un am y digwyddiadau, ni fyddwch yn gymwys ar gyfer yr adolygiad hwn.

Ymddygiad gwrthgymdeithasol

Rhoi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol ar stadau cyngor

I alw'r heddlu, defnyddiwch y rhif nad yw'n rhif argyfwng sef 101.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 03 Rhagfyr 2021