Adolygiad achos ymddygiad gwrthgymdeithasol (Sbardun Cymunedol)
Mae'r adolygiad achos ymddygiad gwrthgymdeithasol yn caniatáu i ddioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus, sydd wedi adrodd am ddigwyddiadau i un neu fwy o asiantaethau yn flaenorol, ofyn i'w hachos gael ei adolygu pan fônt yn teimlo nad yw'r camau gweithredu a gymerwyd wedi bod yn ddigonol.
Bydd rhoi'r adolygiad achos ymddygiad gwrthgymdeithasol ar waith yn dod ag asiantaethau perthnasol ynghyd i rannu gwybodaeth, adolygu'r camau gweithredu a gymerwyd a cheisio dod o hyd i ateb a fydd, gobeithio, yn atal digwyddiadau tebyg rhag digwydd eto.
At ddibenion yr adolygiad achos ymddygiad gwrthgymdeithasol, diffinnir ymddygiad gwrthgymdeithasol fel 'ymddygiad sy'n peri aflonyddwch, braw neu ofid i bobl nad ydynt yn byw yn yr un aelwyd'.
Pwy all ddefnyddio'r adolygiad achos ymddygiad gwrthgymdeithasol?
- Dioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol.
- Rhywun sy'n cynrychioli dioddefwr megis gofalwr, cynghorydd neu aelod o'r teulu. Rhaid cael caniatâd gan y dioddefwr cyn cyflwyno'r cais.
- Cymunedau neu fusnesau
Mynd i wefan yr adolygiad achos ymddygiad gwrthgymdeithasol
Os nad ydych wedi adrodd am ymddygiad gwrthgymdeithasol o'r blaen
Os ydych wedi dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol ond heb ddweud wrth unrhyw un am y digwyddiadau, ni fyddwch yn gymwys ar gyfer yr adolygiad hwn.
Rhoi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol ar stadau cyngor
I alw'r heddlu, defnyddiwch y rhif nad yw'n rhif argyfwng sef 101.