Toglo gwelededd dewislen symudol

Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY)

Rhaid i bob ysgol brif ffrwd a gynhelir yng Nghymru ddynodi person a fydd yn gyfrifol dros gydlynu cymorth i blant / bobl ifanc gydag anghenion dysgu ychwanegol. Mae'r person hwnnw'n cael ei adnabod fel Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol neu CADY.

Beth ydyn nhw'n ei wneud?

Mae gan y CADY gyfrifoldeb cyffredinol am y canlynol:

  • Ysgrifennu a rhoi polisi Anghenion dysgu Ychwanegol (ADY) ar waith.
  • Goruchwylio'r gwaith o weithredu polisi ADY yr ysgol o ddydd i ddydd.
  • Cysylltu a chynnig cyngor i staff yr ysgol ar faterion ADY.
  • Rheoli staff cymorth ADY.
  • Cyfrannu at hyfforddiant mewn swydd i athrawon.
  • Penderfynu a oes gan blentyn ADY ar y cyd ag arbenigwyr allanol.
  • Bod â chyfrifoldeb cyffredinol i sicrhau bod gan bob plentyn / person ifanc sydd ag ADY ar draws yr ysgol CDU.
  • Cysylltu â rhieni plant ag ADY a threfnu cyfarfodydd adolygu.
  • Cydlynu darpariaeth ar gyfer plant ag ADY.
  • Goruchwylio cofnodion pob plentyn ag ADY.
  • Cysylltu ag asiantaethau allanol gan gynnwys athrawon cynghori a gwasanaethau seicoleg addysgol, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, a chyrff gwirfoddol.

Mae'r CADY yn gwneud yn siŵr bod anghenion pob plentyn / person ifanc sydd ag ADY yn cael eu diwallu.

Dwi'n pryderu am fy mhlentyn, â phwy y dylwn i gysylltu?

Am bryderon cyffredinol, yn gyntaf mae angen i chi siarad â'r athro dosbarth a / neu CADY yr ysgol / coleg. Eu nod yw gweithio gyda'i gilydd i'ch cefnogi a'ch arwain.

Os ydych chi wedi siarad â nhw, mae'ch plentyn wedi cael cefnogaeth ychwanegol ac rydych chi'n pryderu o hyd, yna siaradwch â CADY yr ysgol.

Beth fydd y CADY yn ei wneud i helpu fy mhlentyn?

Mae hyn yn dibynnu ar anghenion eich plentyn. Bydd y CADY yn gweithio gyda chi i drafod anghenion eich plentyn a sut y gellir ei gefnogi yn yr ysgol.

Close Dewis iaith