Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Amlosgfa Abertawe

Mae amlosgfa Abertawe ar dir Mynwent Treforys yng ngogledd y ddinas.

Oriau agor

Nid oes cyfyngiadau ar fynediad i gerddwyr; fodd bynnag, caniateir cerbydau yn ystod yr oriau canlynol yn unig:

  • Dydd Llun i ddydd Iau rhwng 9.00am - 4.00pm 
  • Dydd Gwener rhwng 9.00am - 3.30pm 
  • Penwythnosau a Gwyliau Banc rhwng 10.30am - 3.30pm

Rhaid i yrwyr yrru'n araf a dangos gofal dyladwy i unrhyw gerddwyr yn yr amlosgfa.

Mynd â chŵn am dro

Caniateir cŵn yn y fynwent ond mae'n rhaid eu cadw ar dennyn a dan reolaeth bob amser; mae'n rhaid i berchnogion cŵn ddangos parch ac ystyriaeth i ymwelwyr eraill drwy gadw at y llwybrau a pheidio â cherdded ar feddau a gerddi coffa gyda'u cŵn; mae'n rhaid codi unrhyw faw cŵn ar unwaith a'i roi yn y biniau a ddarperir. Gall goruchwyliwr y fynwent wrthod mynediad i dir y fynwent/amlosgfa os na chydymffurfir â'r amodau hyn.

Teithio i Amlosgfa Abertawe

Côd Post - SA6 6BY

Teithio mewn car - O'r dwyrain, gadewch yr M4 wrth gyffordd 46 gan gymryd y tro cyntaf i'r chwith wrth y cylchfan i fynd ar yr A48 (Heol Clasemont) tuag at Abertawe. Os ydych yn teithio o'r gorllewin, gadewch yr M4 ar gyffordd 46 a throwch i'r dde wrth y cylchfan cyntaf tuag at Langyfelach. Yna, cymerwch y troad cyntaf ar y chwith wrth y cylchfan nesaf, cadwch i'r dde a gyrrwch yn syth ymlaen wrth y cylchfan bach (gan fynd heibio arwyddion ar gyfer Adran Damweiniau ac Argyfyngau Ysbyty Treforys ar y chwith). Rhai cannoedd o lathenni o'ch blaen, tuag at adeilad y DVLA, trowch i'r dde i Heol Pentre Felin (arwydd i'r amlosgfa). Gyrrwch i fyny'r bryn ac, wrth gyrraedd y cylchfan bach, dilynwch y ffordd drwy'r gatiau i'r fynwent ar y chwith neu drwy'r gatiau ar y dde i faes parcio'r amlosgfa. 

Teithio ar fws - Mae'r amlosgfa ar y prif lwybr bysus ar gyfer Treforys, y Clâs neu'r DVLA o Orsaf Fysus y Cwadrant Abertawe.

Teithio ar drên - Yr orsaf agosaf yw Gorsaf Abertawe ar y Stryd Fawr.  Gellir dod o hyd i fysus a thacsis o flaen yr orsaf. Mae amlosgfa Abertawe tua 15 munud i ffwrdd mewn car.

Close Dewis iaith