Toglo gwelededd dewislen symudol

Amserau agor mynwentydd ac amlosgfeydd

Mae ein Mynwentydd a'n Hamlosgfa ar agor i'r cyhoedd 365 niwrnod o'r flwyddyn. Mae hyn yn cynnwys pob mynwent - Coed Gwilym, Cwmgelli, Dan-y-graig, Pontybrenin, Treforys, Ystumllwynarth, Rhydgoch a Neuadd Goffa a Gerddi Amlosgfa Abertawe.

Amserau agor ar gyfer y mynwentydd ac amlosgfa Abertawe

Nid oes cyfyngiadau ar fynediad i gerddwyr; fodd bynnag, caniateir cerbydau yn ystod yr oriau canlynol yn unig:

8.30am - 4.30pm, dydd Llun i ddydd Iau

8.30am - 4.00pm, dydd Gwener

10.00am - 4.00pm, penwythnosau a gwyliau banc (ni chynhelir angladdau ar wyliau banc).

Amserau agor ar gyfer ein swyddfa yn y Ganolfan Ddinesig

Mae swyddfa weinyddol y Gwasanaethau Profedigaeth yn y Ganolfan Ddinesig ar agor i'r cyhoedd o 10.00am i 3.00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am fynwentydd a'r amlosgfa, e-bostiwch gwasanaethauprofedigaeth@abertawe.gov.uk neu ffoniwch 01792 636481 rhwng 9.00am a 4.30pm o ddydd Llun i ddydd Iau a 9.00am a 4.00pm ddydd Gwener.

Mae'r swyddfa ar gau ar benwythnosau a gwyliau banc.

Close Dewis iaith